Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

181 CYMHELLION I BOBL IEUAINC CBEFYDDOL DDYFOD AT FWBDD YB ABGLWYDD. fAE lle i ofni fod yr Ordinhâd o Swper yr Arglwydd yn cael ei hesgeuluso mewn modd beius iawn gan laweroedd o ieuenetyd ein gwlad, ac yr ydys yn amcanu i'r llinellau hyn fod yn rhyw gynorthwy i'r cyf- ryw i dori trwodd heb oedi i fawrhau eu bramt, trwy agosau at fwrdd yr Arglwydd. Noder tri neu bedwar o bethau fel cymhelHon. \af. Mae yr Ordinhad hon wedí ei sefydlu gan y Giuared- wr yn yr ohug ar ei farwolaeth. Hysbys yn ddiau i ddar- ìlenwyr y Winllan fod Matthew, Marc, a Luc yn unol dystio am sefydliad yr Ordinhâd hon gan Grist ychydig cyn ei farwolaeth. Ymddengys hefyd fod yr apostol Paul wedi derbyn yr unrhyw wybodaeth trwy ddadgudd- iad gan Grist ei hun, ac yr ydym yn cael ganddo ef ddar- luniad manwl a theimladwy iawn o'r amgylchiad dyddor- oì hwnw. (Gwel 1 Cor. xi. 23.) Dengys yr apostol nad rhyw beth neillduol i'r oes apostolaidd oedd y sefydliad hwn, ond ei fod wedi ei fwriadu i aros yn yr eglwys "hyd oni ddelo" Mab Duw yr ail waitn i'r ddaear. Crist ei hun a sefydlodd yr Ordinhâd, a dysgir yn ben- dant ei fod wedi gwneyd hyny er cof am ei farwolaeth, a'i fod yn galw ar ei holl ganlynwyr, gan ddywedyd, " Gwnewch hyn er coffa amdanaf." Wrth wneyd hyn yr ydys yn talu gwarogaeth o barch i'r Gwaredwr; ac yn gyferbyniol, oherwydd yr un rheswm, mae peidio â gwneyd hyn yn sarhâd ar yr hwn a'i sefydlodd. Os teimlir math o rwymediga,eth gysegredig i wneuthur dy- muniad olaf' câr a chyfaill, dylid teimlo yn annhraethol fwy felly i wneyd cais diweddaf yr hwn sydd yn anfeidrol well na phawb arall yn nghyd. Cais yr Iesu y nos y Iradyclnoyd ef ydyw. Pwy, tra yn meddu parchi'r Iesu, a all ei wrthod ? Byddai yn llai afresymol, anniolchgar, ac annuwiol i fab wrthod gwneyd cais olaf mam dda, nag ì broffeswr crefydd wrthod gwneyd hyn er coffa amdano ef. 2ü. Bydd ymarfer ffr Ordìnhad hon yn anrhydedd i chwi. Mae i broffeswyr crefydd beidio à nesau at fwrdd yr Arglwydd yn warthnod arnynt hwy, ac yn sarhâd ar Grist. Ös yw ereill yn esgeuluso, mwyaf yn y byd a fydd eieh anrhydedd chwi i wneyd. Chwi a ddangoswch y K Htdref, 1870.