Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ANIFEILIAID Y BEIBL. Pe gofynid i ni enwi yr anifail pedwar-carnol mwyaf adnabyddua, byddai yn anhawdd ateb genym; ond yr ydyin yn sicr nad oes j . un anifail cartrefol ynfwy adnabyddus na'r un y mae ei ddarlun uwchben, gyda nifer o'i gymdeithion. Y mae ein darllenwyr yn gwybod yn dda ddigon mai anifail a ffieiddid yn fawr gan yr Iuddewon gynt (ac hyd heddyw, o ran hyny,) ydyw y mochyn, a hyny oherwydd ei fod yn anifail afian o dan yr hen ddeddf seremoniol. Dyma fel y dywedir yn Deut. xix. [8, "Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchi yr ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi; na fwytewch o'u cig hwynt." Ac y mae rhywbeth yn hynod wrth sylwi mor lythyrenol f an wl ac eithafol y mae yr Israeliaid ar y cyfan wedi cadw at y gorchymyn hwn. Ond y mae y proffwyd Esaiah yn cyhuddo yr Iuddewon o fwj^a cig moch (pen. lxv. 4). Pa rywogaeth o foch oedd y rhai hyny, nis gwyddom, ond moch oeddynt, ac yr oedd trosedd yr Iuddewon yn fawr am fwyta eu cig. Nid ymostyngai yr Iuddewon i alw y creadur hwn wrth ei enw ; galwent ef "y peth dyeithr." Y mae genym engreifftiau neillduol yn y Testament Newydd a ddygant y moch ger ein bron mewn cysyllúadau dyddorol ac l Htdref 1875.