Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

201 ANIFEILIAID Y BEIBL. XI.—Y MARCH Y march sydd un o'r creaduriaid ardderchocaf a gwerthfawrocaf a roddes y Creawdwr holl-ddoeth a da at wasanaeth dyn; ac y mae ei hanes yn llawn dyddordeb a hynodrwydd i bob meddwl ystyriol. Fel un o anifeiliaid y Beibl y mae yn fynych yn cymeryd safle bwysig iawn, ac yn ychwänegu ein dyddordeb yn am hoffder al y creadur hardd a noble hwn. Y mae y sefyllfa yn mha un y sonir am feirch yn oesoedd boreuaf y byd yn awgrymu yn gryf nad oeddynt fel anifeiliaid yn Uuosog iawn ; ac ymddengys mai brenhinoedd a llywiawdwyr a rhyf elwyr a'u defnyddiant fynychaf, naill ai i dynu eu cerbydau neu i'w marchogaeth. Yr oedd yr Aipht yn hynod am ei cheffylau, ■a megid breeds godidog ganddynt hwy. Gwaharddwyd yr Israel- iaid yn bendant gan yr Arglwydd i brynu meirch o'r Aipht ■(Deut. xvii. 16), ac yn Esaiah xxxi. 1—3, yr ydyni yn cael yr Ächos tebygol o hyny: " Gwae y rhai a ddisgynant i'r Aipht am m Tachwedd, 1875.