Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

61 ^^'^•>Ä- P^gŵ^gfl^gg^^j ANIFEILIAID Y BEIBL. XIV.—Y DDAFAD. Dyma ddarlun o un o'r anifeiliaid mwyaf adnabyddus i ni, ac yn sicr un o'r rhai mwyaf defnyddiol i ddyn yn mysg yr anifeiliaid lluosog y mae yr Arglwydd doeth a da wedi bendithio ein byd â hwy. Ŷn mhlith anifeiliaid y Beibl nid oes un yr ydym yn fwy cydna- byddus ag ef, ac nid oes yr un chwaith yn dyf od ger ein bron mewn cysylltiadau mwy dyddorol. Y mae dysgedigion yn rhoddi i ni lawer iawn o eiriau Hebraeg, wrth ba rai y gelwid neu y tybid y ddaf ad; ond gan na byddai y geiriau hyny ond rhwystr i'n darllenwyr ieuainc (er nad yh hollol ddif udd) o herwydd eu dyeithrwch, ni a'u gadawn Ùe y cawsom hwynt. Ýlleoedd y ceir y crybwyllion mynychaf am y ddafad, yn ei ham- rywiol ffurfiau o oedran a rhywiogaeth, ydynt lyfrau Lefiticus a Numeri, lle y ceir cymáînt o son am danynt yn nglŷn a'r aberthau —Lefiticus ix. 4; xvi. 5; viii. 18, 22; ix. 2; xvi. 3 ; v. 15, 18; xix. 21; Num. xxviü 11—14; vi. 14,17; vii. 18, 22; ix. 2; xvi 3; vL 14; v.8. Nid yw yn ymddangos fod defaid ae wŷn yn cael eu defnyddio E Ebrill, 1876.