Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

81 ANIFEILIAID Y BEIBL. XV.—y MORFIL. Dyma yr enw Cymraeg cyffredin wrth ba un yr adwaenir y creadur mawr hwnw a eilw y Saeson yn Whale. Yn Gen. i. 21, y mae y gair Mor/arch yn Gymraeg, a Whaíe yn Saesoneg; yn Matt xii. 40, cawn y gair morfil yn Gymraeg a whale yn Saesoneg. Thau ydyw y gair yn y wreiddiol; ac ymddengys mai ystyr hwnw ydyw anghenfìL mawr, a bernir maì y crocodile a feddylir. Yn Gen. L 21, y mae y gair " morfarch" yn tybio, meddent, y mwyaf o'r holl ymlusgiaid, ar dir a dwr. Yn Matt. xü 40, y mae ein Harglwydd yn ^lefnyddio yr enw Groeg am y morfil, ystyr yr hwn ydywpysgodyn mawr; ond y mae ein cyfieithwyr wedi bod yn anffortunus yn eu gwaith yn cyfieithu y gair yn whale, gan na cheir morfilod yn Mor y Canoldir. Y mae y gair a ddefnyddiodd ein Harglwydd yr un a'r gair a ddefnyddiwyd wrth ei gyfieithu, a'r un modd yn Jonah L 17, lle y dywedir wrthym fod yr Arglwydd wedi darparu ^'pysgodyn mawr i lyncu Jonah." Erbyn heddyw, y farn fwyaf gyffredin a derbyniol yn mysg esbonwyr Beiblaidd ydyw, mai pysgodyn o rywogáetìi y sharlc oedd yr un a f...... Mai, 1876.