Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

121 LLYS HAMPTON. Y mae yn anmhosibl i neb darllengar a meddylgar a wyr ryw ychydig am Hampton Court, beidio teimlo nerth a phwysigrwydd y gwir- ionedd fod y byd yn myned ymaith a'i chwant hefyd ; oblegid y mae hanes Cardinal Wolsey, y prelad mawr a balch, a'r hwn a adeiladodd y Llys hwn ar y dechreu, yn un o'r engreifftiau mwyaf nodedig o hyn. Hynod iawn fel y mae rhai dynion yn cael eu tra dyrchafu a'u hanrhydeddu ar draul darostwng ereill sydd anrhaethol rhag- orach na hwynt yn mhob rhinweddau a galluoedd meddyliol, a hyny, yn benaf, oherwydd mympwy neu ffafr wirionffol y penaeth brenhinol ar y pryd. Yr oedd gan Edward TL.favouríte o'r enw Peers Gaveston, yr hwn a orlwythwyd gan ei fawrhydi ag anrhydedd, rhagorfreintiau, a chyf oeth, er dirfawr sarhad ac annghysuri ganoedd o farwniaid a phendefigion, y rhai o'r diwedd a gyfodasant fel un gwr yn ei erbyn. Favourite mawr Harri VIH. oedd Thomas, Cardinal Wolsey, yr hwn a lwyddodd i ymgodi o'r sefyllfa isaf i'r safle uchaf yn bosibl, a hyny oherwydd f od y brenin wedi ym- serchu ynddo i raddau anhygoel, er y gall fod gan dalentau Wolsey gryn lawer i wneyd a'r dylanwad a gaf odd efe ar ei fawrhydi. Yr H GORPHENAF, 18.76.