Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

161 Y mae Frank bach wedi bod yn glaf ers rhai wythnosau, ond y mae yn gwella yn gyflym yn awr. Yn ystod ei afiechyo y mae ei gyfoedion ieuainc o'r ysgol wedi bod yn dra ffyddlawn iddo, ac wedi ymweled âg ef yn fynych gan ddwyn gydag hwy anrhegion plentynaidd. Yr oedd ei galon fach yn lloni bob amser pan y gwelai ei gyfeillion, ac edryohai yn foddhaus iawn wrth weled y teganau a ddygid iddo gan y naill a'r ìlall. Y mae ein darlun yn ei ddangos yn eistedd i fyny yn ei wely, yn edrych gyda dyddordeb mawr ar un o'r teganau a ddygasai Maggie iddo; y mae hi yn esbonio