Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AM CHWEFBOfi, 1865. Y PWYSIGEWYDD O GEEEYDD FOEEUOL. GAN t paeoh. t. attbbey. YSGRIF n. Y fath gyfnod pwysig yn y bywyd dynol yw ieuenctyd! Y mae ffawd dragwyddol y nifer luosocaf o'r teulu dynol yn cael ei phenderfynu yn y cyfhod hwn. Mae llawer ohonynt yn disgyn ì'r beddcyncyraeddydterfynycyfnod hwn ; ac felly, mae eu bythol fîawd yn cael ei phender- fynu y pryd hwnw. Mae ieuenctyd iddynt hwy yr hyn yw'r gwanwyn i weddill y flwyddyn. Mae yr hyn a hauir yn y tjrmor hwn yn tarddu, ac yn addfedu, ac yn cynyrchu cynauaf y bythol ddyfodiant. Dywedir i ni yn fynych, os esgeulusir cymeryd addysg mewn ieuenctyd, mai anfynych y cyraeddir hi mewn oedran addfed. Mae yr esgeulusiad yn gadael gwasg- nodiad ar y cymeriad am weddill yr oes. Ond y mae yna ífaith arall ag sydd mor wir. ond yn anfeidrol fwy pwysig; mae nifer y rhai sydd yn d'od i feddiant o grefydd, wedi iddynt ei hesgeuluso yn nhymor ieuenctyd, mor fychan a'r rhai sydd yn cyraedd addysg goeth wedi iddynt ei hesgeuluso yn nhymor boreuol bywyd. Mae sylfeini cymeriad yn cael eu gosod i lawr y pryd hyny. Mae y Uwybr ag sydd yn arwain i fythol ffawd dyn yn gynredin yn cael ei ddewis yn y cyfnod hwn; a hyny yn fynych pan nad yw yn cael ei ddewis ond am dymor byr, a chyda bwriad i'w newid mewn rhyw adeg gyfleus. Mae llawer dyn ieuanc wedi dechreu ar redfa nad oedd ei reswm a'i gydwjrbod yn ei chymeradwyo, ac nad oedd yn medru enill ei gydsyniad ef ei hun ond trwy addaw iddo ei hun- an nad âi yn mhell yn y llwybrhwnw. Ychydig a fuasai yn dewie llwybrau pechadurus yn eu hieuenctyd, pe bu-