Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AM TACHWEDD, 1865. Y PEDAIE EFENGYL. Y mae Cristionogaeth yn sefydledig ar ffeithiau—ar y ffeithiau fod Iesu o Nazareth wedi marw, a chyfodi o feirw y trydydd dydd. Yr oedd y ffeithiau hyny yn cael lle amlwg yn ngweinidogaeth yr apostolion. Gyda'r ffeith- iau hyny y bu iddynt ddechreu yn Jerusalem—y ddinas llé cymerodd y pethau hyny le, ac yn mhen dau fis wedi idd- ynt gymeryd lle. Dywedent mai Iesu o Nazareth, yr hwn a groeshoeliwyd gan yr Iuddewon, trwy ddwylaw y cene<lloedd, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, a'r hwn oedd wedi dyrchafu i'r nef, oedd wedi anfon yr Ysbryd Glân iddynt—-dyna yr esboniad ar y swn oedd fel gwynt nerthol yn rhuthro, a'r tafodau tân oedd wedi disgyn ar bawb oedd yn " gytun yn yr un lle." Ac yn enw hwnw yr oedd y dyn cloff wedi cael ei iachau. Pe na buasai fod Iesu o Nazareth wedi ei groeshoelio, ac wedi marw, ac adgyfodi o'r bedd, buasai Òristionogaeth wedi ei llethu yn y dechreu. Yr oedd yno ddigon o bobl yn Jerusalem mewn digon o awydd i attal ei lledaeniad, ac yr oedd y rhai hyny y bobl fwyaf awdurdodol yn y ddinas, a gwnaethant bobpeth a fedrent i wneyd hyny. Ond tra nas gellid gwadu fod Iesu o Namreth wedi marw ac wedi adgyfodi, yr oedd eu holl ymgais yn ofer. Yr oedd yno ddynion wedi ymrwymo mewn ufudd-dod i Dduw, wedi eu gwisgo â nerth Duw, ac yn cael eu harwain a'u ham- ddiffyn gan ei ragluniaeth, wedi eu neillduo i fod yn dyst- ion o'r ffeithiau hyny. Nid oedd gwaharddiad a bygyth- iad y cynghor yn Jerusalem yn ddim yn erbyn rhai felly tra yr oedd y ffeithiau yn aros. Pel y bu i'r apostolion ddechreu y bu iddynt hefyd barhau. Yr hyn a gyhoedd- ent yn Jerusalem am ei fod yn wirionedd, er i'r íuddewon dramgwyddo, a gyhoeddent i'r Groegiaid hefyd, er iddynt