Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

T WINLLAN. 121 LLAWENYDD A BAEN. GAN jumus. JYBIA rhai pobl ieuainc fod y Beibl yn condemnio llawenydd, a; fod crefydd Crist yn cau allan bob m wyniant a hyfrydwch me wn bywyd. Ni f u erioed gamgymeriad mwy. Dysgeidiaeth bendant y Beibl ydyw y gall bywyd pob dyn fod yn gyflawn o ddedwyddwch a llawenydd. Yn mhlith geiriau diweddaf Iesu Grist wrth ffarwelio a'i ddisgyblion sonir ganddo am "lawenychu eu calonau," "troi eu tristwch yn llawenydd," a diogelu iddynt yr hyn a wnelai " eu llawenydd yn gyflawn." Y mae dedwyddwch o fewn cyrhaedd pobl ieuamc fydd yn cynyddu yn feunyddiol ac yn melysu wrth fyned yn mlaen. Datguddio dedwyddwch a dat- guddio y ffordd i'w ddiogelu ydyw prif amcan y Beibl. Orefydd lawn o ddedwyddwch ydyw crefydd yr Arglwydd Iesu Grist. Gellir dyweyd am dani, " Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch." Y mae dau gamgymeriad mawr ac y mae pobl ieuainc mewn modd arbenig yn agored iddynt. Yn y lle cyntaf, hawdd ydyw iddynt gymeryd y gau yn lle y gwir. Yn yr ail le, hawdd ydyw camgymeryd y moddion i ddiogelu gwir hapusrwydd. Yn y Beibl gwahaniaethir y gwir oddiwrth y gau, a dangosir yn eglur pa fodd i'w sicrhau. Mae y gwr doeth (gwel Llyfr y Pregethwr xi. 9) yn dyrchafu ei lef mewn rhybudd difrifol yn erbyn llawenydd gau. Geilw ar bobl ieuainc i ystyried y ffyrdd trwy ba rai y ceisiant fwyniant. Myn efe i'w holl ymgais am lawenydd gael ei Uywodr- aethu a'i thymeru gan y synied o gyfrifoldeb i Dduw ; ac y mae ei eiriau yn grynodeb o ddysgeìdiaeth Gair Duw ar y mater hwn. Ar gychwyn ei yrfa, pan y mae y dyn ieuanc yn dechreu Uunio llwybr bywyd iddo ei hun ; daw y gwr doeth i'w gyfarfod a dywed:— " Gwna yn llawen, wr ieuanc, yn dy ieuenctyd, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctyd, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yn ngolwg dy lygaid : ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll." Nid argymell ymroddiad i fywyd o lawenydd cnawdol ac annuwiol y mae Solomon yn y geiriau uchod. Yn hytrach rhy- buddio rhag y fath ymroddiad y mae. Ei aincan mawr ef ydyw cael pobl ieuainc i geisio Uawenydd pur, llawenydd na bydd raid cy wilyddio o'i herwydd yn nydd y Farn. Cyn prynu mwyniant dylid Gorphenaf, 1893.