Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN. 161 A GOLLWYD AC A GAFWYD. YSTORI I BOBL IEUAINC. GAN GOMEE. PENNOD IX.—YMOSODIAD CRETJLAWN. ^M rai dyddiau aeth pethau yn mlaen yn addawol a thipyn yn gysuros, ac yr oedd Wateyn yn dechreu enill nerth a gwroldeb ; ac er nad oedd dim gwelliant wedi cymeryd lle yn ymddygiad Warrier y foreman tuag ato, dyfalbarhaodd ac ymegniodd gyda'i waith, a Uwyddai i ddiweddu bob diwrnod mewn heddwch, gan ddychwelyd i'w llety mewn cyflwr meddwl lled hapus ar y cyfan. Reblaw hyn oll yr oedd Watcyn wedi dechreu mynychu dosbarth Beiblau a gynelid yn vestry room yr addoldy Ang- hydffurfiol oedd yn y gymydogaeth nesaf ato. Gweinidog yr eglwys hono oedd y Parch. John Gwilym, y gwr parchedig hynaws a charedig hwnw ag y cofia ein darllenwyr ddarfod iddo ddychrynu ein cyfaill ieuanc Watcyn gymaint wrth wasgu arholiad mor agos arno parthed ei hanes. Fel y gellir credu, yr oedd yn dda iawn gan Mr Gwilym gyfarfod drachefn â Watcyn, a deall fod ei ragolygon mor obeithiol. Y ffaith yw yr oedd Mr Gwilym wedi cael ei gyfarwyddo gan Mr Bar- low i aròlygu symudiadau Watcyn, ac i wneyd ei oreu i'w gael i fynychu y capel; ac mewn canlyniad yr oedd y gwr da wedi myned i edrych am Watcyn yn ei lety, ac wedi llwyddo i gael ganddo ymuno â'r dosbarth Beiblau a dyfod i foddion grasyn y capel. Ac felly y dygwyddodd fod pethau yn dechreu edrych yn f wy addawol a siriol i Watcyn; ac at y cwbl yr oedd dylan- wadau graslawn yr efengyl wedi dechreu gwneyd gwaith da arno, nes y teimlai hiraeth mawr iawn ar brydiau am godi a dychwelyd adref i dŷ ei dad, i syrthio ar ei wddf, a dywedyd, " Peehais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau." Ond yr oedd cofìo beth a wnaeth a meddwl am y gwaradwydd a ddygasai amo ei hun, er gwaethaf bob ymdrech i'r gwrthwyneb, yn dwyn cwmwl du dros lewyich ei fywyd newydd, ac yn peri i ddafnau chwerw ymgymysgu â chwpan ei hapusrwydd gobeithiol. Fel hyn yr aeth pethau yn mlaen am beth amser. Erbyn hyn yr oedä Warner, y foreman, ar brydiau yn teimlo graddau o hunan-gondemniad am ei fryntni at Watcyn, druan, wrth ei weled mor ddiwyd a fEyddlawn gyda'i orchwylion, ac wrth Medì, 189S.