Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

21 DIWEDD OES YE APOSTOL PATTL. §mae pob hanesoberthynas i'r apostol Paul, yn mhell- ach na'r byn a gynwysir gan Luc yn Llyfr yr Actau, yn amheus ac ansicr, ac ni ellir dywedyd pa un ai ar ddechreu y ddwy fìynedd y bu yn Bhufain, ai ar eu ter- fyn, y derbyniodd ei brawf. Tybia Lightfoot a Dr. Lard- ner ac ereill, mai ar ei dechreu, ac mai canlyniad y prawf oedd iddo gael ei garcharu am ddwy fìynedd; ond nid yw hyn amgen na thybiaeth ; ond y mae yn amíwg oddiwrth 2 Tim. iv. 16, iddo gael ei gyhuddo ryw amser gerbron yr amherawdwr ; ond y mae y pryd y gwnaed hyny, a'r pen- derfyniad y deuwyd iddo ar ei achos, a'r rhesymau paham y cafodd ei ryddhau yn y diwedd, yn aros yn dywy 11; ond fe wyddys na fu yn segur, ac na fu ei weinidogaeth yn ddilwydd pan o dan rwymau; canys fe gafodd amryw eu dychwelyd trwy ei bregethau yn llys yr arnherawdwr. Ac efe a ddywed jn Philipiaid i. 12—14, " i'r pethau ddyg- wyddodd iddo ef ddyfod yn hytrach er llwyddiant yr efengyl." Yn ystod ei garchariad y tro hwn y bu yn offeryn i droi Önesimus, caethwas Philemon. Dyma'r pryd hefyd yr ysgrifenodd ei epistolau at yr Ephesiaid, Philipiaid, Oolossiaid, a Philemon. Y pryd hwn hefyd yr oedd Caradoc, brenin y Brutaniaid, a'i ferch Gwladys, yr hon a elwir yn yr epistolau Olaudia, yn Ehufain, â pha rai y daeth Paul i gydnabyddiaeth ; canlyniad yr hyn a fu dyfodiad yr efengyl i'r wlad hon. Bernir mai yn y flwyddyn o oed ein Harglwydd 63 y cafodd ei ollwng yn rhydd; a dywed rhai, iddo, yn ganlyn- ol i hyny, fyned trwy yr Ital, a throsodd i'r Yspaen, oddiyno i Ffraìnc, a dyfod mor bell a'r wlad hon; ond nid oes dim sicrwydd: hyny o saiì sydd i'r dybiaeth hon yd- yw Ehuf. xv. 24. Barna ereill iddo droi yn ei ol o'r Hys- paen, a myned i Oreta (Oandia yr oes bresenol), lle y gadawodd Titus i olygu yr eglwys yn y lle hwnw—iddo fyned oddiyno gyda Timotheus i Jerusalem, a dychwelyd trwy Antiochia yn Syria, i Asia Leiaf, ac ymweled âg Ephesus a Cholossa, lle na bu o'r blaen: oddiyno i Mac- edonia, Philipi, a Nicapolis ; ac mai o Macedonia y tro hwn yr ysgrifenodd ei epistol cyntaf at Timotheus. Dywed Lardner, yr hwn a chwiliodd ei hanes yn fanwl, a'r hwn sydd gymhwysach na neb arall i farnu, iddo, wedi cael ei ryddid, fyned o Eufain i Jerusalem, mor fuan ag B Chwefeoe 1867