Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

141 Y GWELY BYR A'R CWRLID CTJL. " Canys byraeh yw y gwely nag y gellir ymestyn ynddo; a chul yw y ewr- lid i ymdroi ynddo."—Esay xxviii. 20. §MAE y gwely a'r cwrlid yn ddarpariaethau cyfaddas- ol i orphwysiad y corff lluddeâig wedi caledwaith, neu pan y byddo wedi ei ahhwyluso a'i wanychu gan glefyd a phoen ; ond os bydd y naill yn rhy fyr, a'r llall yn rhy gul, nid ydyw yn gysurus i'r blin, nac yn gymhwys i'r claf. Dyma ddesgrifiad o'r pethau y mae plant dynion yn ymorphwys arnynt yn rhy fynych, ac yn ymdroi ynddynt, fel pethau digonol i gysuro ao i ddedwyddu yr enaid an- farwol; megys cyfoeth, anrhydedd, awdurdod, parchus- rwydd, sefyllfaoedd uchel, mwynianau, aphleserau daear- ol a chnawdol. Dymunem wasgu ar feddyliau ein dar- llenwyr ieuainc, fod pob un o'r pethau a nodwyd, a'r oll yn nghyd, yn annigonol i wir gysur a dedwyddwçh yr enaid sydd ì fyw byth. Y mae y " gwely yn rhy fyr i ymcstyn ynddo, a'r cwrlid yn rhy gul i ymdroi ynddo." "F mao yn fyr, a byr iawn yn wir ì nid ydyw ond hyd bywyd byr y corff: y mao oes yr enaid yn yrnestyn draw i dragwyddoldeb. Gadewch i ai wrandaw ar yr hyn ddywed Solomon o berthynas i'r pwnc dan sylw. Yr oedd ef yn ŵr o brofiad, ac yn meddu' gallu uweh na chyffredin i roddi barn deg a chywir ar y mater. Mae yr adroddiad i'w gael yn yr ail bennod o lyfr y Pregethwr. Mae'r gŵr doeth yn taflu golwg dros ei feddianau eang, ei waith mawr—ei dai—ei winllanoedd—ei erddi—ei berllanan—ei goedydd ffrwyth- lawn—ei lynau dwfr—ei weision a'i forwynion—ei wartheg a'i ddefaid—ei bentwr o aur ac arian, a thrysor penaf breninoedd a thalaethau—ei gantorion a'i gantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrwch meibion dynion. Yna (ebai efe) mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaeth- ai fy nwylaw, ac ar y ilafur a lafuriais yn ei wneuthur; ac wele, hyn oll oedd wcu/edd, a gorthrymder yshryd. Hyny yw, í?yda golwg ar ddiwallu augenion ysbiydol, y maent oE fel pethau gwag: ni cheir dim o wagder—llogell wag, bwyd-gist wag, banc gwag : " Gwagedd o wagedd, gwag- edd yw y cwbl." Y gofyniad naturiol bellach ydyw, A oes dai-pariadau cyfaddasol i enaid wedi eu gwneyd ? A oes pethau cvra- X Awst, 1867.