Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

iiîîii -AJVL 1869. 1868 AO 1869. ,YFEiLUON ieuainc,—Erbyn y bydd y rhifyn bwn yn eich dwylaw bydd y flwyddyn 1868 wedi myned—wedi rhoddi i fyny ei goruchwyliaeth— wedi selio ei chyfrifon—a darfod â bod! Tra y bu bi byw, ei henw hi oedd i'w weled ar bobpeth ; ei henw hi oedd uwchben pob llythyr, ar bob papur, yn mhob cyfriflyfr, ar glawr pob cyhoeddiad misol a newyddiadur, ac ar wyneb -ddalen agos bob llyfr. Ysgrifenwyd, argraffwyd, a llefarwyd ei henw ryw filiwnau lawer o weithiau. A blwyddyn ryfedd fu 1868 yn mhob ystyr o'r gair. Llanwyd hi at yr ymylon gan amgylchiadau pwysig—pwysig i wledydd ac i bersonau unigol—i'f byd ac i'r eglwys. Ar ddalenau ei llyfr coffadwnaethol y mae llawer o bethau pwysig wedi eu cofnodi— pwysig ì'r oes hon ac i'r oesau dyfodol—pwysig am amser a thragwydd- oldeb. Gwefodd gladdu llawer. Dywedir, a hyny ar seiliau credadwy, fod dros drigain yn marw bob munud! " Tic, tic, tic," ebai yr awrlais, a phob " tic " yn hysbysu mynediad enaid i fyd arall! Tra yr ydym yn ysgrifenu y brawddegau hyn y mae y cloch sydd gerllaw i ni wedi rhoddi aml i " dic," a chynifer hyny wedi myned trwy y porth i'r ysbrydol fyd ! Do, gwelodd 1868 gíaddu llawer —dim llai na 32,000,000 o fodau dynol—gynifer a phobl- ogaeth Oymru ddeg ar ugain o weithiau drosodd. în eu p£th y mae nifer o ddarllenwyr y Winllan wedi myned. Buont yn ei darllen am Ionawr 1868, ond ni chânt ei dar- llen am Ionawr 1869; a diameu fod llawer a ddarllenant ei thudalenau am Ionawr 1869 na chânt ei gweled wediei dyddio am Ionawr 1870! Oes, y mae Hawer o ddarllen- wyr y Winllan am 1868 wedi myned o ran eu hysbryd i " fyd yr ysbrydoedd," aJu cyrff yn y bedd, a'u heirch yn dwyn y llythyrenau «'«1868."