Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DEGEI, PEIF DDTJW Y FFIJIATJD. fAE gan y Ffijiaid lawer iawn o dduwiau, ond Degei yw y penaetli arnynt oll. Ehaid i bob corach o áduw bach blygu at lawr i hwn. Hwn, meddant hwy—ond ni chymerai y darllenydd lawer a'u credu—a wnaeth y byd Ffijiaidd, y ffrwythau, a dynion. Efe a anfonodd y diluw ar y ddaear yn gospedigaeth am bechod ei ddeiliaid gwrthryfelgar. Mae ganddo feibion, ac anfona hwy allan fel ei oruchwylwyr i wahanol ranau o'r byd i edrych pa fodd yr ymddyga y deiliaid, ac i ddwyn yr hysbysiadau a gasglant iddo ef. Dywedir fod ei feibion yn taro ati i wneyd ambell wjo-th ar yr ymweliadau hyn. Mae Degei ar ffurf sarff; a dywed rhai fod eì gynffon o gareg, yn arwyddocaol o dragwyddol barhâd. Mae yn byw mewn ogof, ar ochr mynydd yn nhalaeth Eakiraki. Pan y rhodda dro, achosa ddaeargrynfäau; a phan y symuda, mae yn taranu. Mae yn dda i'r Ffijiaid druain nad yw eu duw yn troi nac yn symud yn aml, neu byddai yn ddrwg arnynt. Wrth nesau at ei ogof, mae y Ffìjiad yn palfalu ar ei liniau a'i ddau benelin, gan fod yn ofalus i beidio cyffwrdd y Uawr â'i draed na'i ben. Mae meibion y duw yn wastad ar eu gwyliadwriaeth am ymwelwyr. Ar ol dyfod yn agos, mae yr oífeiriad ag sydd yn canlyn y cwmni, ag sydd am ymgynghori â'r oracl, yn gwaeddi allan, " O dduw, torcha dy hunan i fyny!" Yna â y cwmni i mewn i'r ogof, a safant yn llonydd hyd nes y clywant y meibion yn dyweyd, " Mae rhywun yn symud." Yna dywed yr offeiriad, " Ni sydd yma, Syr ; yr ydym yn myned i ryfela, ac wedi dyfod i gael gwybod ein ffawd." " Gwrandewch, ynte," dywed y meibion. Yna clywa yr addolwyr swn pastynau yn cael eu curo yn erbyn rhywbeth, ac mae pob cnoc yn cynrychioli dyn a ledäir yn y rhyfel. Yr oedd y ddaear heb ffurf, ac anfonodd Degei un o'i feibion, sef Eokomantu, i'w threfnu. Yn y lleoedd hyny ag y caniataodd Eoliomantu ei hugan laes i lusgo ar hyd y llawr, ymddange^odvi gwastadedd tywodlyd; ond pan godai ei wisg i fyny. ymddangosodd creigle garw ac anwastad, neu dd^ir anwastad yn orchuddiedig â thwmpathau mangroi s. Cyntafanedig Degei yw Eokola, a gosodwyd ef yn saer b " Chwefror, 1869.