Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

81 MAHOMET A'I GBEFYDD. §T fynai efe i'w ddylynwyr feddwl am Iesu heb bareh mawr iddo. " Yn ddiau,*' meddai efe, "mae Crist Iesu, Mab Mair, yn apostol i Dduw; a bydd ei air a drosglwyddodd efe i Mair, ac ysbryd yn deülio ohono, yn anrhydeddus yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw, ac fe fydd yn un o'r rhai a gânt nesau i ŵydd Duw." Er hyn, mae yn dadgan mai dyn marwol oedd Iesu, ac y bydd i'w dystiolaeth yn nydd y farn gondemnio, nid yn unig yr Iuddewon sydd yn ei wrthod fel proffwyd, ond hefyd y Cristionogion sydd yn ei addoli ef fel Mab Duw. Efe a ddywed, fod malais ei elynion wedi rhoddi drygair iddo. a chynllwyn i ddwyn ei einioes; ond mai mewn bwriad yn unig y buont euog o'i ladd; mai drychiolaeth neu ryw droseddwr a fu ar y groes; ond fod y* sant di- niwaid wedi ei ddyrchafu i'r seithfed nef. Yn y chwe chan mlynedd o flaen Mahomet, mai efengyl Crist oedd gwir ffordd iachawdwriaeth; ond ar ol dyfodiad Mahomet, mai eíe oedd y diwygiwr a'r arweinydd: fod Moses a Christ wedi llawenychu yn y dysgwyliad sicr am broffwyd arall i ddyfod, un enwocach na hwynt eu hunain, ac yn yr addewid o'r Dyddanydd, yr hyn a gyíiawnwyd yn mherson y Mahomet, y mwyaf a'r olaf o apostolion Duw. Ehy faith fyddai adrodd y ddegfed ran o'r dychymyg- ion celwyddog a ddyfeisiodd ac a gyhoeddodd y twyllwr erchyll hwn. Ond oddiwrth hyn o fyr grynoad, can- fyddir yn eglur ei fod yn defhyddio y Beibl i geisio dym- chwelyd gwirionedd y Beibl. Adroddwn eto yn fyr am y Messiah, neu èi daith ryfedd ef, fel y mae wedi ei hadrodd ganddo yn yr aii benod-ar- bymtheg o'r Corau neu yr Alcoran, â'r hon y mae y Mahometaniaid hyd heddyw, o leiaf, yn proffesu eu bod yn derbyn ac yn credu ei chynwysiad. Yn ol hono, pan oedd efe un noswaith yn ei wely, efe a glywai guro wrth ei ddrws; a phan gyfododd, yr angel Gabriel oedd yno, a chanddo bedwar ugain pâr a deg o adenydd, yn wjmach na'r eira na'r grisial; a'r anifail Borac hefyd, neu Alborac, yr hwn y byddai y proffwydi yn cael ei farchog- aeth ar deithiau a fyddai yn gofyn brys; yr oedd y sy- mudiad hwn mor gyfiym a'r fellten, ond ni adawai i Ma- homet ei farchogaeth, nes iddo weddio drosto, ac addaw iddo le yn mharadwys; yna, megys ar darawiad amrant, a'r angel Gabriel yn dal y ffrwyn, efe a'i dug o Mecca i E * MAI, 1869.