Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

101 DETHOLION YSGRYTHYBOL. Bhif. 9. Y Byd i'r Ceed-wad. " A'r seithfed angel a udganodd; a bu llefain uchel yn y nef, yn dyred- yd, Aeth tevrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a'i Grist ef." Dat. ii. 15. fBAETHASOM yn yr ysgrif ddiweddaf am Geidwad i'r byd—Ceidwad holl-ddigonol i'r byi, a Cheidwad i'r byd oll. Yn awr y mae genym i draethu ychydig ar ffaith fawr arall, sef " Y byd i'r Ceidwad." Nodwn, Efe ydyw Creawdwr y lyd. Y mae hyn yn cael ei dystio mewn lluaws o fanau yn y Testament Newydd. Tystiolaeth Ioan yr efengylwr amdano ydyw hyn: " Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair ;" ac fel prawf o'i ddwyfolaeth, dywedir mai " trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth, ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a'r a wnaethpwyd." " Yn y byd yr oedd efe, a'r byd a wnaethpwyd trwyddo ef." Ceir yr un gwirionedd yn cael ei osod allan gan yr apostol Paul yn ei ddull ardderchog arferol: '' Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd. ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddianau, pob dim a grewyd. trwyddo ef ac erddo ef." O ganlyniad y mae ein Ceidwad yn alluog i ddywedyd gyda phriodoldeb, " Y byd a'i gyflawnder sydd eiddof fi." Efe a'i galwodd i fodolaeth, " ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll." Efe ydyw Llywydd y byd. Trowch i'r bennod gyntaf yn Ezeciel, ac yno y cewch ddysgrifiad o weledigaeth fawreddog y proffwyä wrth afon Chebar. Darluniad ydyw o drefn fawr rhagluniaeth a'i chysylltiadau, " fel pe byddai olwyn yn nghanol olwyn." " Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddent yn ofnadwy." Oddiarnodd " ddufl. y ffurfafen fel lliw grisial ofnadwy ;" " ac oddiar y ffurfafen, yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc, fel gwel- ediad maen saphir, ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddiarnodd arno ef gyffelybrwydd megys gwelediad dyn." Pwy all hwnw fod ond " y dyn Crist Iesu." Yn un o'i weddiau, ceir yr ymadroddion hyn. " Ehoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd;" ac wrth ei ddysgyblion, Mehefin, 1869.