Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

121 PETHATJ CYFFEEDIN AC AEFEEADWY. é|pE.—Y prif wledydd o ba rai y ceir te, ydynt China, mL Japan, a Siam, yn Asia. Dail yw y te a geir yn ^^ tyfu yn y gwledydd a enwyd ar bren sy'n tyfu mewn saith mlynedd i uchder o bump i chwe troedfedd. Tynir y dail ar dri thymor yn y flwyddyn, sef yn mis Mawrth, pan nad yw y dail ond wythnos oed. Mae'r tê yma yn ddrud iawn. "Wedi hyny yn Ebrill, pan fydd rhai o'r dail yn eu Uawn dŵf, a'r lleill yn ieu- anc; ac yna yn mis Awst. Dyma'r te gwaelaf ac iselaf ei bris. Ehenir y te dû yn ol ei ansawdd, a gel- wir hwynt yn Pekoe—dyna'r goraf; wedi hyny Sotj- chong, a arwydda yn ol y Chineaeg, " peth bach da;" yna Congott, neu " lawer o ofal;" a'r Bohea, yr iselaf o'r tylwyth. Ehenir y tegwyrdd yn Singlo, Hysoîí, a G-tjn- POWDER: yr olaf ydyw y goraf o'r tri math, ac a ddyg- wyd i Ewrop gan Ddutchman yn 1610. Ymddengys nad oes dim gwahaniaeth gwreiddiol yn y te dû a'r gwyrdd : yn y ddarpariaeth a'r driniaeth y mae y gwahaniaeth yn cael ei wneyd. Yn y flwyddyn 1669, anfonodd yr East India Company a,m 143lbs o de, a gwerthwyd ef am £2 lOs. Oc. y jpound neu y pwys. Mae y swm o de a anfonir i'r wlad hon yn awr o China dros gan miliwn o bwysi yn flynyddol! Siwgr.—Ceir hwn yn benaf o Demerara, Penang, Na- tal, Java, a Cuba. Gwesgir ef allan o gyrs main a dŷf o wyth i ugain troedfedd o uchder. . Nid yw y siwgr gwỳn dymunol yr]olwg, a'r treacle, a'r sugar candy, a'r barleysugar, sydd mor hoff gan blant, ond siwgr yn ei wahanol ffurfiau wedi myned trwy wahanol brocesses. Mae oddeutu chwe chan mil o dunelli o siwgr yn cael ei ddefnyddio yn flyn- yddol yn ein teyrnas ni. Cofpee.—Tŷf ar bren prysglog yn Arabia a Ceylon, yn India Ddwyreiniol a GorÜewinol. Pan yn addfed, mae yn dra thebyg yr olwg i ceirios {cherries) ein gwlad ni. Ar ol eu tynu gadewir iddynt sychu yn yr haul; ac yna maent yn cael eu rhostio. Mae dros drigain müiwn o bwysi yn cael ei ddefnyddio yn ein gwlad ni yn y flwyddyn. Dywedir mai o Mocha, arlan y Môr Coch, y ceir y coffee goraf yn y byd. Yn y flwyddyn 1652 y dechreuwyd defnyddio coffee yn Mhrydain. Chiooby.—Planigyn a dŷf ÿn HoÉand, a Germany, a « GORPHENHAF, 1869