Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

161 EHAGOEOLDEB CBEFYDD. tWYLLYs Duw ydyw fod ei holl greaduriaid yn dded- wydd; a gogoniant Duw a dedwyddwch dyn yd- oedd dyben penaf y greadigaeth. Ac er fod pawb yn caru dedwyddwch, nid yw pawb yn deall y ffordd i'w gael. Chwiliant amdano mewn pleserau cnawdol a gwag ddifyrwch, heb ystyried fod ffrwd o annedwyddwch yn dylyn y cyfryw bleserau. Nid oes dim a wna ddyn yn wir ddedwydd ond crefydd. Mae gwynfyd a galar yn gymysgedig â'r pethau goreu yma ; ond dedwyddwch pur sydd yn deilliaw o'r ffynon hon. Cariad at Dduw ac at ddyn ydyw ei egwyddor. Bhagora crefydd yn ei natur ar drysorau ein daear. Mae arian ac aur yn werth- fawr ac yn ddymunol iawn ; ond nid ydynt yn werthfawr nac yn ddymunol ynddynt eu hunain; ond eu prinder a'u drudaniaeth sydd yn gosod gwerth arnynt. Pe byddai aur Peru, a pherlau yr India draw, mor aml a'r tywod glan y môr, byddent'mor ddiwerth a diddefnydd a'r tywod eu hunain. Ond y mae crefydd ynddi ei hun yn werthfawr ac anmhrisiaäwy. Ehagora crefydd yn ei Tieffeithiau ar gyfoeth y byd hwn. Pan y byddwn yn cael ein goddiweddyd gan gystudd, rhydd crefydd hedd- wch a thangnefedd yn ein mynwesau, yr hwn nis dichon y byd ei roddi. Bydd hyd yn nod i gystudd ei hun ' weithio er daioni'—bydd yn fantais i'n diwygio, gwna bechod i ni yn fwy chwerw, a Christ yn fwy melys, angeu yn fwy dymunol, a'r nefoedd yn fwy hyfryd a gogoneddus. Bhagora crefydd hefyd yn ei pharhâd ar bob peth a welir. Pan wywa prydferthwch natur, bydd crefydd yn ei go- goniant, ac yn ei llawn rhwysg. " Y pethau a welir sydd dros amser; eithr y pethau ni welir sydd dragwydd- ol." Pe meddem ar gyfoeth y byd, a holl drysorau y ddaear yn ein meddiant, byddai raid ymadael â hwynt yn angeu, " Betb. dâl y byd a'i bleser fifol î Mae tragwyddoldeb maith yn ol." Pan ý byddwn yn agosau at afon angeu, a'r tywyllwch caddugol yn dechreu ern gordoi, bydd cyfoeth yn beth di- bwys yn ein golwg. Ond cynyrcha crefydd yr effeithiau mwyaf dymunol yn yr awr gyfyng hono—bydd yn llew- 1 k«h, 1869.