Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

61 DR. THOMAS GUTHEIE. ALLWN anturio dyweyd er fod y darlun uchod heb fod mor t| adnabyddus i'n darllenwyr,. fod yr enw yn un y mae Hawer iawn ohonynt wedi ymgydnabyddu âg ef, naill ai trwy weled neu trwy glywed ; obìegid mae I)r. Guthrie yn enw sydd wedi bod gerbron y cyhoedd yn amlwg ac aml iawn am ddegau o flynydd- oedd, oblegid yr oedd efe yn un o bregethwyr a dyngarwyr blaenaf eioes. Ond, och ! yntau hefyd a syrthiodd dan ddyrnod " brenin y dychryniadau," a bellach, yn mhlitb. y rhai a fu, gyda golwgar y byd yma, ac yn mhlith y rhai sydd ac a fyddant yn dragwyddoî gyda golwg ar fyd arall, y mae Dr. Guthrie ; efe a aeth " i dangnef • edd," gan adael ar ei ol goffadwriaeth beraidd a hyfryd iawn. Ganwyd Thomas Guthrie yn Brechin, ar y 12fed o Orphenhaf, 1802. Brechin sydd dref fechan yn Forfarshire, Scotland ; ac yr oedd ei deulu yn un henafol, parchus, a chyfrifol. Banher ydoedd ei dad; ac felly ni bu Thomas Guthrie, yn moreu ei oes, yn amddi- fad o fanteision blaenaf y bywyd hwn mewn addysgiaeth a dygiad 1 Ebmll, 1874.