Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

WILLIAM III. í^J^N y flwyddyn 1688 y cymerodd le y dygwyddiad hynod a ad- jfc waenir wrth yr enw English Reoolution, yr hwn a ddygwyd [ "^" oddiamgylch trwy ystyfnigrwydd ac annghyfiawnder y bren- in Iago II tuag at ei ddeiliaid Pretestanaidd, a'i ymgais parhaus i'w gorthrymu a'u caethiwo yn eu rhyddid a'u hiawnderau cref- yddol. Yn y fiwyddyn hono, pan welodd y bobl fod pethau wedi myned i'r eithaf, a bod genedigaeth tywysog yn peryglu myned o'r deyrnwialen i ddwylaw Pabydd arall, penderfynasant anfon am William, Prînce of Orange, yr hwn oedd brif swyddog y talaethau EUmynaidd, a'r hwn hefyd oedd fab-yn-nghyfraith i'r brenin, ond yr hwn oedd Brotestant twymgalon, i ddyfod trosodd i'w cynorth- wyo i amddiffyn cyfreithiau a chrefydd y wlad hon rhag y perygl oedd yn eu bygwth oddiwrth y wladwriaeth a'r goron. Yntau yn ebrwydd a ufuddhaodd; ac yr oedd pob peth wedi ei ddarparu ar ei gyfer, a hyny o'r bron yn ddiarwybod i Iago. Glaniodd Wil- liam yn Torkay yn Tachwedd, ac ymunwyd âg ef gan brif urddas- olion y deyrnae. Ffôdd y brenin, ond daliwydef; dygwyd ef yn ol i Lundain, anfonwyd ef yn garcharor i Eochester, oddiyno di- angodd i Ffrainc. Derbyniwyd ef gan Louis XIV yn garedig, yr hwn a roddodd iddo balas i dreulio ei oes ynddo. L Hydbbf, 1874.