Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WINLLAN Ehif. 8.] AWST, 1S82. [Cyf. XXXV. 6ttfoff0t0tt. VII.—SHAKESPEARE. fDYWEDODD un o gyfeillion Hyder Ali Khan (y penaeth Indiaidd rhyfelgar a dewr) wrtho un di- wrnod, tua therfyn ei yrfa helbulus, y byddai yn ddymunol cael gan ei uchelder fynegiad o'i syniad- _ „ . au gyda golwg ar drefniad ei gladdedigaeth, pan ddelai ei gyf newidiad olaf. Edrychodd Hyder Ali ar ei gyfaill yn lled synedig, a gofynodd yn drahausfalch, " Pwy sydd yn sonam gladdu Hyder Ali Khan? " Nid am nad ydoedd y rhyfelwr yn gwybod cystal a neb mai ei gladdu a gaffai pan fyddai farw, fel pob dyn arall; eithr awgrymu yr ydoedd efe f od ei fawredd a'i iri yn anfarwol, ac, yn yr ystyr hono na chleddid byth mo Hyder Ali Khan. Ac yr ydoedd yn lled debyg o fod yn rhagddyweyd gwirionedd wrth lefaru felly; canys y mae ei goffadiorìaeth yn fyw byth yn yr India, ac mewn Uawer gwlad araíl; er fod llawer