Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

141 MABWOLAETH IESTT GBIST YN EFAITH HANESYDDOL. (daleît allast o " Ben Calfaria") Pan yr oedd yr apostolion yn dechreu ar eu gweinidog- aeth, yr ydym yn cael eu bod yn seíydlu eu hathrawiaeth- au a'u eymhellion i ddyledswydd ar fíeithiau—y ffeithiau o farwolaeth ac adgyfodiad lesu Grist. Yr oeudent yn cyhoeddi eu bod hw3r eu hunain yn dystion o aà'gj/fodiad lesu Grist; ond cymerent ei farwólaeth yn ganiataol fel ffaith oedd mor adnabyddus, fel nad oedd eisieu dwyn tystiolaeth iddi. Yr oedd bodaeth wii-ioneddol Iesu o Nazareth yn bwnc nad oedd eisieu ei brofi ; ac yr oedd fod " yr lesu hwn " wedi ei groeshoelio a*i ladd, mor ad- nabyddus i'r rhai oedd yn gwrando ag i'r rhai oedd yn pregethu. Yr oedd yr apostolion yn '' dechreu yn Jerusa- lern "—yn y ddinas lle yr honent fod yr amgylchiadau y sefydlent eu gweinidogaeth arnynt wedi cymeryd lle; ao yn mhen dau fis wedi iddynt gymeryd lle. Pe na buasai yr amgylchiadau hjiìj wedi cymeryd lle yn wirionedd- ol, dyna y lle, a dyna yr arnser i broíì hynj^. Ond ni wnaed hyny—nid amcanwyd gwneyd Tiyny; a clian na wnaed hyny y pryd hwnw, rîiaid mai cwbl oí'er ydyw pob cais byth ar ol hyny. Oadawer i ni fanylu ychydig ar yr hanes. Yn y dydd- iau hynj'-, gellid gweied cwmni o bobl yn myned bob dydd i oruwchystafell neillduol yn Jerusalem i gynal cyf- arfod gweddio,- Yr oeddent yn myned yno yn gyson a rheolaidd bob dydd am ddeg diwrnod. Gellid meddwl mai ychydig o sylw a wneid ohonynt y dyddiau hyn}', os na chyfeirid mewn gwawd at eu siomiant a'u penboethni. Ond os gwneid hyny, ni bu iddynt ddigaloni; " yr oedd- ent hwy oll yn gytun yn yr un lle " y degfed dydd. Y dydd hwnw, daeth swn o'r nef megys gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ íle yr odddent yn eis- tedd; ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megys o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt, a hwy a ddechreuasant lefaru â thafodau ereill. Aeth y gair o hyn ar led, ac ymgasglodd lluaws yn nghyd er mwyn iddynt weled a chlywed yr hyn oedd yn cymeryd Ue. Yr oedd rhai yn synu, rhai yn ameu, a rhai yn gofyu, " Beth a all hyn fod ? ac ereill yn gwatwar gan ddyweyd mai meddwon oeddent. Eithr Pedr a gyfododd ei lefer- h Awst, 1866.