Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IEUENCTYD CYMR Cyf. IV. Gorphenaf. Rhif 43. AT EIN GOHEBWYR. 1 Archebion a thaliadau i Mr G. Griffiths, 2, Ynyslwyd Street, Aberdare. 2. Gofala Mr William John Evans, Commercial Street, Aberdar, am y Gerddoriaeth. 3. Y Farddoniaeth i'r Parch Ben Davies, Panteg, Ystalyfera. 4. Pob peth arall i'r Golygydd. ^ Bwrdd y Golygydd. •# Gogoniant Gwyr Ieuainc.—Ysgrif bwrpasol y\v hon i " Ieuenctyd Cymru." Hoffwj ei thestyn, ei heglurder, a'i hysbryd, ac y mae ei brawddegau yn Ued orphenedig a chryfion, Os ca yr awdwr helynt ryw bryd gyda'r geiriau mae a mai, i'w ac yw, cymered at y ffordd hon. Fe ellir rhoddi y gair taw yn lle mai, ond ni chymer mae ef, ac fe ellir rhoi ydyw yn lle yw ; ond nis gellir ei roi yn lle i'w. Ewch yn mlaen yn galonog ; chwi a ddeuwch yn berffeithiach yn eich tyfiant. Y Gyfeillach Grefyddol.—Carem i'r bobl ieuainc i roi darlleniad pwyllog a meddylgar i'r ysgrif hon. Ofnwn i fod tuedd ynddynt i ceri yn eu cariad at y Gyfeillach. Fe wna'r ysgrif hon roi ysbrydiaeth newydd yn y darllenydd. Cenadaeth y Gymdeithas Ymdrechol.—Yr ydych yn ysgrifenu ar garlam. Arferwch amynedd mewn pryd. Beth yn well na hunan-ddysgyblaeth, a hyny mewn pryd ? Mae eich testyn yn dderbyniol iawn ; mae eich ffordd o'i weithio allan yn newydd ac yn ddueth, ac fe wna eich ysgrif les. Telynog.—Diolchwn am fwy o ysgrifau o fath hon. Darllener y penawd. A gawn ni fywgraphiadau byrion i feirdd ieuainc o wahanol ranau o Gymru—beirdd ieuainc ymadáwedig, bid sicr ?