Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

71 YMR Cyf. IV. Awst. Rhif 44f AT EIN GOHEBWYR. 1 Archebion a thahadau i Mr G. Grifnths, 2, Ynyslwyd Street, Aberdare. 2. Gofala Mr William John Evans, Commercial Street, Aberdar, am y Gerddoriaeth. 3. Y Farddoniaeth i'r Parch. Ben Davies, Panteg, Ystalyfera. 4. Pob peth arall i'r Golygydd. •s* Bwrdd y Golygydd.^ John JoNES.—Yr ydych yn ysgriíenu yn fyr, ac y mae eich llawysgrif yn fedrus, a chlir ydyw eich meddyliau. Darllenwch a meddyl- iwch. Rho'wch neges i bob brawddeg ; a myner eich brawddeg- au i ddweyd eu negeseuau yn bendant a chryf. Mary Powell.—Pwysig iawn yw eich testyn, a da iawn ydyw_ eich traethiad arno. Llonir ni wrth weled merch ieuanc yn ysgrifenu fel hyn. Diolch am fod merched ieuainc Cymru yn meddwl, ac yn meddwl ar faterion crefyddol. O ferched ieuainc fel hyn ceir mamau goreu y dyfodol. Y mae eich sillebiaeth yn gywir; ond nid ydych cystal yn eich atal-nodau. Mynwch roi pob brawddeg ar ei phen ei hun, yn hollol annibynol ar y lleill. Yr ydych eis- oes yn llenores dda. John Lewis Jenrins.—Y mae genych destyn wrth fy modd, ac yr ydych yn ei ranu yn ddoeth ; ac y mae yr hyn a ddywedwch ar y rhaniadau yn briodol a chryf. Darllenwch fy nghynghorion i Mary Powell, a rho'wch ail ystyriaeth dros y rhaniadau yn y modd y cewch hwynt wedi eu cyhoeddi. Ewch rhagoch yn galonog.