Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IEUENCTYD CYMR Cyf. IV. Tachwedd. Rhif 47. AT EIN GOHEBWYR. 1 Archebion a thahadau i Mr G. Griffiths, 2, Ynyslwyd Street Aberdare. 2. Gofola Mr William John Evans, Commercial Street, Aberdar, am y Gerddoriaeth. 3. Y Farddoniaeth i'r Parch Ben Davies, Panteg, Ystalyfera. i. 4 Pob peth arall i*r Golygydd. 0, NA BAWN I FEL Y NANT. Pryd mae'r nant yn canu oreu Ei halawon swynol pur ? Ai wrth deithio'n araf, esmwyth Dros y ddol a'r gwastad-dir ? Na, wrth ruthro rhwng y creigìau, Wrth ymwylltu tua'r pant, Gweddia'm calon gyda Ceinog— O, na bawn i fel y nant ! Gornant fechan, lawen, nwyfus, O, na chawn ei chalon iach, O, na allwn yn fy ngofìd Fentro canu dipyn bach : Nant y mynydd, mwyn ei thelyn, Try pob craig yn felus dant, Gweddia'm calon gyda Ceiriog— O. na bawn i fel y nant!