Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Jöuenctyd Gymru. Cyfrol I. MEDI, 1899. Rhif 9. iŴt ein. GoKeoxoyr. 1.—Archebion a Thaliadau i Mr, G. Griffiths, 2, Ynyslwyd Street, Aberdar. 2.—Gofala Mr. Wllliam John Evans, Commercial Street, Aberdar, am y Gerddoriaeth. 3.—Pob peth arall i'r Gol. 4,- Yn Eisiau: Hanesion Byrion am Bersonau, &c., a gwersi er lles oddiwrthynt. GWANWYN BYWYD. Gan M. C. Morris, Ton. LYWCH lais y plant yn canu, Yn canu er gwaethaf y byd ; Mae mawl peroriaeth Teulu Y Nefoedd yn llanw eü bryd. Yn swn eu cân, gofidiau Ymgiliant o'u Heden wen, braf, Yn ngwres eu per anthemau, Y gwenant fel hinon yr Haf. Canwn, clodforwn yn Eden ein hoes, Canwn heb brofl un blinder na loes ; Canwn mewn bywyd, mae'n Tad wrth y llyw, Canwn raewn G^ynfyd ganiadau ein Duw. Mae engyl Nef yn gwylio Boreuddydd diniwed ein hoes, A gwen Rhagluniaeth eto Yn gwylio pob 'storom a loes; Mae ffrwythau gardd ieuenctyd Yn sypiau melusion bob un, Pob pren yn " Bren y bywyd," Pel eiddo'r gogoniant ei hun. Canwn, clodforwn yn Eden ein hoes, &c.