Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Rhif. 1.] IONAWR, 1849. [Cyfrol iii. Dechreuasom y flwyddyn ddiweddaf â'r enw "Immanuel" —enw ag sydd yn cynnwys holl ddirgelwch duwioldeb ac yn llawn o ddiddauwch i'r credadyn. Dechreuwn y flwyddyn bon gydag enw arall a roddir ar Dduw Tsrael yn y gair sanctaidd—sef, Jehoyah-jtre,"— enw. ag sydd, fel y llall, yn gyflawn o felusder ac o gysur i bobl yr Arglwydd. Dyma'r enw, o dan yr hwn y cyfododd Abrabam allor i'r Arglwydd ar yr achlysur nodedig hwnnw, pan y cafodd brawf o ofal Rhagluniaethol Duw ya darparu iddo ei hun abertli i'w offrymmu yn lle Isaac ei fab. "Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOYAH-jire," sef, " Yr Arglwydd a ddarpara." (Gwél Gen. xxii. 14.)—Adyma'r enw, o dan pa un y dymunem ninnau gyflwyno ein gwaith i fendith yr Arglwydd ar ddechreu cyfrol newydd. Ond nid yn ei gyssylltiad â nyni ein hunain yn unig yr ydym yn dewis liwn fel ein harwyddair y tro presennol, ond beíýd yn ei gyssylltiad â'n darllenwyr. Nis gall fod dim gwell iddynt hwy nac i ni, wrth wynebu ar ddigwyddiadau blwyddyn newydd, na chael yr un fiydd, ag oedd gan Abra- ham, i olygu Duw fel Jehovab-jire. Tywyll ac ansicr ydyw'r amser dyfodol i ni:—yr hyn a fu, ni a wyddom, ond am yr hyn fifydd, ni wyddom hyd yn oed betli a ddigwydd jforu. Llawer un sydd heddyw mewn bawddfyd, ac yn rhodio mewn esmwytbdra, a fydd wedi suddo yn nyfroedd dyfnion profedigaetb, cyn darfod i'r flwyddyn bon droi yn gyfìawn yneichylch; a Uawer gwynebpryd, sydd heddyw yn siriol gan iechyd, a fydd cyn hynny yn gwelwi yn angau;—nis gwyddom pwy, na pha bryd, na pha i'odd. Ond y mae gan y Cristion gysur diogel gogyfer a holl ansicrwydd petbau daear,—" JEHOYAH-jirc,"—Yr Arglwydd a ddarpara.