Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Rhif. 2.] CHWEFROR, 1849. [Cyfeol iii. ©rrfrjtŵ a Jîîtotsolörf). GAN ESGOB HORSLEY. Mae y ddiareb mai moesoldeb yn unig ydyw swm a syl- wedd crefydd ymarferol yn cynnwys celwydd deublyg. Y mae yn cyfyngu cylch dyledswydd Gristionogol, ac yn camddarlunio yn bollol natur y petb. Mewn bollol wrth- wynebiad i'r ddiareb annuwiol bon, yr wjf fi yn sicrbau, er fod crefydd yn cynnwys moesoldeb, fel y mae y perffeith- rwydd mwyaf yn cynnwys yr un lleiaf, yn gymmaint a'r na ddichon dyn anfoesol fod yn grefyddol, etto fe ddichon dyn fod yn ddiargyhoedd yu ei nodweddiad moesol, ac ar yr un pryd yn hollol anghrefyddol a llygredig: aughrefyddol a llygredig i'r graddau bynny, fel ag i fod mewn perygl o gael ei fwrw i'r tywyllwch eithaf, gyd â'i holl faich o haeddiant moesol ar ei gefn. A ydyw moesoldeb yn d'weyd, "Na thrachwanta?" A ydyw liywodraetli rhwymedigaeth moesol yn cyrhaedd dirgel fyfyrdodau y rueddwl, a distaw ddymuniadau y galon ? A ydyw yn gosod attalfa ar gnawdolrwydd y dychymmyg, a gorfiys cuddiedig y cliwant? Yr un fath a'r gyfraith ddwy- fol, a ydyw yn cyrhaedd i bob nwyf dirgelaidd y meddwl, yr ewyllys, a'r chwant, ac yn gofyn am ufudd-dod y dyn mewnol yn gystal a'r allanol ? A ydyw moesoldeb yn d'weyd, " Cer- wch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, gwnewch dda i'r sawl a'eh casâut?" A ydyw moesoldeb yn gorchymyn maddeu uiweidiau, neu roddi elusen i'r tlawd ? Yn wir, nid yw moesoldeb " yn gofalu am ddim o'r pethau hyn." Cyn Ueied rhan, gan hynny o ddyledswydd Grist- ionogol ydyw yr eithaf y mae moesoldeb yn ei ofyn; ac mor ddinystriol y rnae y rbai hynny yn cael eu camarwain, sydd yn cael eu dysgu fod moesoldeb yn unig yn boddloni y Gyf. raitb, wrth yr hon y bernir y Cristion, hyd yn oed yn y gangen isel o gariad at ein cymmydog !