Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Rhif. 10.] HYDREF, 1849. [Cyfeol iii. ŵír mijŵíìi. Y mae y pwngc o Eyddid yn dwyn perthynas â nyni i gyd : nid oes neb yn rhy uchel fel ag i'w ddirmygu, na neb yn rhy isel fel ag i beidio ei ddyniuno; ychydig o eiriau, gan hynny, ynghylch rhyddid. Mae rhyddid yn beth rhagorol iawn; un o'r pethau mwy- af rhagorol, ac fe ddylai pawb ymdrechu ei gael. Y mae caethiwed yn beth truenus, ac fe ddylai pawb wneuthur pob ymdrech i'w ochelyd. Ymae gwahanol fathau o gaethiwed, ond caethiwed pech- od yw y traenusaf o'r cwbl. Er y dichon i'r drwg-weith- redwr a'r caethwas wisgo eu cadwynau hyd angau, fe fydd- ant yn rbydd oddi wrthynt y pryd hynny; ond y mae yn rhaid i'r liwn sydd yn gaeth yng nghadwynau pechod eu dî- oddef drwy amser a thragywyddoldeb. Ymaitb, gan hynny, â chaethiwed; a chroesaw, can' croesaw i ryddid. Ond gan y gellir cam-arfer rhyddid, y mae yn rhaid ei gy- fyngu; oblegid os ydym ni yn dymuno rhyddid i wneutb- ur yr hyn y mae Duw wedi orchymyn i ni beidio ei wneuth- ur, yr ydym yn dymuuo cael rhyddid a wnelai niweid i ni. Ni roddem ni byth ryddid i blentyn i fwytta gwenwyn, i chwareu ûg erfyn miniog, neu i neidio i lawr ddibyn serth ; ac ni ddylem ninnau ddymuno rhyddid i anufuddhau i'n Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd, oblegid y mae pechod yn arwain i ddistryw. Y mae llawer dyn wrth farw, gan adael y byd mewn tangnefedd, trwy fod ganddo sail dda i obeithio am fywyd tragywyddol, wredi cael achos i ddiolch am yr at- taliadau a gafodd, am y drain a osododd ei Dad nefol ar ei ffordd. A ydych chwi yn gofyn paham y mae Duw wedi cyfyngu ! ein rliyddid? Esponiwcb yug nghyntaf paham y mae wedi í cyfyngu ein eynneddfau. Nid yw wedi rhoddi i ddyn nerth