Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Rhif. 11.] TACHWEDD, 1849. [Cyfeol iii. Gellir d'weyd, mai meddwdod yw prif becliod Brydain Fawr. Nid oes, fe allai, un wlad trwy'r byd, lle inae eym- maint o feddwi ag sydd yn y wlad freiniol hon. Nid oes yr un pechod gan hynny, yn erbyn yr hwn y dylai Cristionog- I ion Brydain osod eu gwynebau yu fwy penderfynol nag yn erbyn hwn. " Gwreiddyn chwerwedd " ydyw, o'r hwn y tyf pob pechod gwenwynig arall;—gwely brwd ydyw yn yr hwn y megir pob chwant pechadurus ac annuwiol. Nid oes yr un ag sydd yn di-raddio dyn, yn fwy nahwn;—y mae yn darostwng arglwydd y greadigaeth, ac yn ei wneud ef yn ynfydach na'r anifail direswm. Mae'r meddwyn yn taflu ymaith bob peíb sydd yn ei harddu, fel creadur Duw. Ar ddelw Duw y crewyd dyn ar y cyntaf: â phurdeb, fel Duw; â doethiueb, fel Duw; á rheswm, fel Duw; â rhin- weddau fel Duw; âg arglwyddiaetb, fel Duw. Ond y mae'r meddwyn yn difetha y ddelw hon, a thrwy ei ormodedd yn gwneutbur holl gynheddfau ci enaid a'i gorph yn ddi-allu. Edrychwn ar waith yr Arglwydd yng nghyfansoddiad y corph dynol; gwelwn mor gywrain y mae'r holl rannau o hono wedi eu eyssylltu ynghyd—yr esgyrn, y cymmalau, y gwytheni yn amlach braidd nag y medrwn ni eu rhifo, ac etto pob un yn ei le—olwyn megis ynghanoì olwyn, ac etto pob olwyn yn troi heb rygnu! ac onid ydym yn barod i gyd- nabod nas gall fod peiriant mwy cywrain na mwy hardd? neu i gyfaddef gyda'r Psalmydd, " Yn ofnadwy a rbyfedd y'm gwnaed !" Ond y mae'r meddwyn, yn lle ei ddefnyddio yn gyfreithlawn, yn dyrysu'r holl beiriant prydferth hwn, ac yn rhwystro pob rban iddo rhag cyflawni ei swydd priod- ol! Mae traed y meddwyn yn methu cyflawni eu swydd— maent yn llithro oddi-tauo. Mae ei ddwylaw yn methu ei gynnorthwyo,—maent yn hongian yn ddiffrwyth wrth ei