Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 7. GORPHENHAF, 1851. Cyf. I. &îrìfoltaîí iitatr g jFortogu, Protestant. Goddefwch i mi of- yn, a ydyw eich Eglwys chwi yn cymmeradwyo oífrymmau i Fair y forwyn ? Offeiriad Pabaidd. Fe all y ffyddloniaid wneuthur offrymmau er anrhydedd mam Duw; ond ni offrymmir hwy iddi hi megis i Dduw ei Hun. P. Yng ngwasanaeth yr offeren chwi a ddywedwch, "Derbyn, O Drindod Sanctaidd, yr aberth hwn yr ydym yn ei gyflwyno i ti, er an- rhydeddd y forwyn ogoneddusaf, mam Duw." Yr ydych yn galw hwn y mwyaf o aberthau, ac yr yd- ych yn ei offrymmu er anrhydedd creadur: mae hyn yn ddiau yn bur debyg i'r addoliad yr ydych yn ei dalu é Dduw ei Hunan. Byddwch hefyd yn arogl-darthu ac yn goleuo canhwyllau ger bron delw y for- ẁyn. O. P. Mae y rhai hyn, mewn gwir- ionedd, yn cael eu cyflwyno i Dduw, er y gosodir hwy o flaen delw y for- wyn. P. Yr ydych yn dwyn ar gôf i mi atteb Chillingworth i ddywediad o'r fath hyn : " Os âf oddi yma drwy Henley i Lundain, ni's gellir dweyd yn iawn fy mod yn myn'd i Henley, ond yn unig i Lundain; neu, os trwy ddwfr y gwelaf y tywod, ni's gellir dweyd yn iawn fy mod yu gweled y tywod, ond yn unig* y dwfr." Ond chwi addefwch o leiaf, pan fo gweddiau a wnaethpwyd ar y cyntaf i Dduw yn cael eu newid i fod yn weddiau ar y forwyn, ei bod hi y pryd hynny yn derbyn addoliad Dwyfol. Beth ynte a feddyliwch chwi o'r gwawdeiriad (parody) can- lynol o Weddi'r Arglwydd ? Ý mae yn gyfieithiad cywir o weddi a ar- graphwyd ar gerdyn, ac a werthwyd yn y siopau yn Brussels saith neu wyth ml}Tiedd yn ol: "Ein mam, yr hon wyt yn y nefoedd, O Fair, bendigedig fyddo dy enw yn dra- gywydd; deled dy gariad i'n calon- nau ni oll; gwneler dy ewyllys ar y ddaear megis yn y neíbedd ; dyro i ni heddy w ras a thrugaredd ; dyro i ni faddeuant o'n camweddau, fel yr ydym yn gobeithio am dano gan dy ddaioni diderfyn di; ac na âd i ni syrthio mwy i brofedigaeth, ond gwared ni rhag drwg. Amen." 0. P. Nid yw yr Eglwys yn at- tebol am bob peth a argrephir neu a gyhoeddir i'w arferyd gan ei hael- odau. Ni dderbyniodd y gwawd- eiriad hwn gymmeradwyaeth yr Eg- lwys. P. Ond fe'i gwerthwyd ger bron llygaid eich Esgobion a'ch Offeiriaid yn Brussels; a diammeu, pe buas-