Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. CYFRES NEWYDI). Rhif. 9. MEDI, 1851. Cyf. I. iFg ^nto- " Beth sydd mewn Enw ?" sydd ofyniad cyffredin; ac un a ofynir yn aml, megis pe byddai yn amlwg nad oes dim ynddo. Ac mewn ystyr y mae hyn yn wir: nid yw enw ddim, oni fydd rhy wbeth gyd â hynny. Nid yw cyfoeth mewn enw yn unig ddim—na gwybodaeth mewn enw, na chrefydd mewn enw ddim. Ac etto, mewn ystyr arall, gellir dweyd fod enwau yn llywodraethu'r byd. Am enw mae rhan fawr o'r byd yn llafurio, canys beth yw anrhydedd y byd ond enw? Ac ofn enw sydd yn cadw miloedd rhag cymmer- yd iau Crist arnynt, a'i ddilyn Ef â'u holl galon !—mae arnynt oíh i'r byd eu galw yn seintiau neu yn rhagrithwŷr, neu ryw enw arall a ddwg arnynt ddirmyg a gwawd. Mae yn bossibl, ynte, gwneud enw yn ddefnyddiol er da neu er drwg. A dyma, meddyliwn, oedd barn yr Eglwys, pan y cys- sylltodd enw pob un o'i haelodau â'i addunedau fel disgybl bedydd- iedig Crist. Y gofyniad cyntaf yn y Catecism ydyw, "Beth yw dy Enw di ?" A'r nesaf, " Pwy a roddes yr Enw hwnnw arnat ti ?" Atteb,—" Fy nhadau bedydd a'm mammau bedydd wrth fy medyddio, pan y'm gwnaethpwyd yn aelod i i Grist, yn blentyn i Dduw, ac yn etifedd teyrnas nefoedd." Gan hyn-. ny mae enw y Cristion yn goífad- wriaeth iddo o'r rhwymedigaethau mwyaf pwysig, a'r breintiau mwyaf goruchel mewn bod; ao y mae bod ei enw wedi ei gyssylltu â'r rhai hyn yn ei ddysgu y dylai y rhai hynny fod yn gôf ganddo gyhýd ag y pery ei enw. Mae amryw bethau teîlwng o sylw yn y gofyniad hwn. Yn laf. y mae yn ein dysgu mai rhywbeth personol ydyw y greíydd sydd raid fod gennym. Y mae megis yn dweyd wrth bob un ar ei ben ei hun, " Tydi yw y" gwr." " I H y mae y breintiau a nodir yn perthyn, o"s wyt yn Gristion mewn gwirionedd; arnat ti mae'r addunedau yn gor- phwys, ac i ti y perthyn cyflawni y dyledswyddau." Mae'r Catecism yn ein dysgu, nid beth yw pob aelod bedyddiedig o'n Heglwys, ond beth a ddylai fod. Ac y mae yn dwyn pob uu o'i haelodau yn bersonol i edrych i mewn i'r drych hwn, ac i chwilio pa faint a ŵyr efe yn brof- iadol am wir freintiau ei Fedydd, a pha gyn belled y mae yn cyflawni y dyledswyddau. Yn nesaf, y mae bod fy enw wedi ei roddi i mi yn fy Medydd yn achos da paham y dylem ofalu rhag dwyn unrhyw warth ar yr enw hwn.