Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 8. AWST, 1852. Cyf. II. 3Wrolfaffl ewfg&ìrol* " Addola Dduw " !—Gymmaint a gynnwysir yn y gorchymyn byr hwn ! Mor lawn ydyw o'r hyn a ddylai sobreiddio 'r meddwl, dde- ffrôi'r gydwybod, ac ennyn y serch- iadau ! Os golygwn y Gwrthddrych a gyfeirir atto—" Duwy Duwiau, ac Arglwydd yr Arglwyddi" ydyw! Ac os golygwn y ddyledswydd a or- chymynir tu ag atto—nid. amgen yw nâ'r hyn a brì'odolir i osgordd- ion disglaer y nef, y rhai a ymgrym- mant ger bron yr Orsedd ac a addolant yr Hwn sydd yn byw yn oes oesoedd! Gweithred yw hon na ddylid ei chyflawni tuag at neb ond Jehofah. Teyrngedyw ag sydd yn ddyledus oddi wrth y creadur i'w Greawdwr yn unig. Am bethau a phersonau eraill—yr harddaf, y puraf, yr anrhydeddusaf yn bod— gorchymynir, " Na ostwng idd- ynt, ac na addola hwynt." An- rhydedd yw addoliad, na pherthyn i neb ond Duw, yr Hwn a ddywed, " Myfi yw Jehofah ; dyma fy enw: a'm gogoniant ni roddaf i arall." (Esay 42. 8). Am hynny pan gyn- nygiodd Ioan addoliad i'r ceunad disglaer, a anfonwyd i ddangos iddo y pethau rhyfeddol a goffheir yn llyfr y Datguddiad, yr angel a ddy- wedodd wrtho, " Gwêl na wnelych : canys cyd-was ydwyf i ti......Add- ola Dduzv:' (Dat. 22. 9). Braidd ua ddychymmygwn fod yr holl grëadigaeth drwyddi, mewn rhyw ddull neu gilydd, yn rhoddi addoliad i Dduw. Yr haul ar ei yrfa, y lleuad yn ei chylch, y ser yn eu graddau—maent oll yn ei fawr- hâu ac yn ei ogoneddu Ëf, yr Hwn yw eu Canol-bwyut a'u Cynhalydd hwy oll! " Dy holl weithredoedd," medd y Psalmydd, " a'th glodfor- ant, O Arglwydd; a'th saint a'th fendithiant." *(Ps. 145. 10). Yr un gwaith a br'íodola efe i weith- redoedd eraill Duw, ag i'w saint Ef. Felly y gwna hefyd mewn Psalm ardderchog arall, lle y geilw ar bawb a phob peth ymhob man, o uchder nefoedd i ddyfnderau 'r eig- ion, i foli 'r Arglwydd. " Molwch yr Arglwydd o'r nefoedd: molwch Ef yn yr uchelderau. Molwch Ef, ei holl angylion: molwch Ef, ei holl luoedd. Molwch Ef, haul a lleuad : molwch Ef, holl sêr y go- leuni......Molwch yr Arglwyddo'r ddaear, y dreigiau, a'r holl ddyfn- derau." (Ps. 148. 1, &c). Ond heb ymhelaethu ar y ddy- ledswydd hon gyd â golwg ar weithredoedd eraill Duw, sylwn ychydig arni yn ei chyssylltiad â nyni, fel ei bobl, ac ar yr hyn sydd yn gwneud i fynu addoliad. Mae lle i feddwl bod rhai camsyniadau yn ei chylch ymhlith llawer sydd