Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. CYFRES NEWYDD. Rhif. 10. HYDREF, 1852. Cyf. II. ŵtoeíflirẃíaìTatt gr iEglfogs* Un rhagoriaeth perthynol i'n Heg- lwys, am yr hwn y dylem fod yn ddîolchgar i'r Arglwydd, ydyw nifer a chymmeriad yr amrywiol Gym- deithasau sydd wedi eu ffurfio mewn cyssylltiad â hi er dwyn ymlaen ledaeniad Teyrnas Crist yn y byd. Mae y rhai hyn ar yr un pryd yn arwyddion o fywyd ynddi, ac heíỳd yn foddion o ennyn ychwaneg o fywyd; yn ei galluogi i helaethu lle ei phabell, ac estyn cortynnau ei phreswylfeydd;—i dorri aÜan ar y llaw ddehâu ac ar y llaw aswy; fel y byddo ei had yn etifeddu y Cen- hedloedd. Y maent fel cynnifer o freichiau, â pha rai y mae corph yr Eglwys yn estyn ei gweithredoedd o gariad hyd eithafoedd byd,—âg un llaw yn ymaflyd yn y Pagan an- wybodus ymhell fannau y ddaear, i'w ddwyn i mewn i Gorlan Crist, ac â'r llall yn cyffwrdd â'r hwn sydd yn byw fel Pagan mewn gwlad Efengyl, i'w gynnysgaeddu â gwy- bodaeth gadwedigol am yr Hwn y gelwir ei Enw Ef arno. Ym mhlith y Cymdeithasau hyn nid oes yr un ag y mae ei gweith- rediadau yn meddu ar fwy o ddy- ddordeb, nâ'r hon a elwir y " Church Pastoral Aid Society;" diben yr hon yw cynnorthwyo Gweinidogion yr Eglwys mewn plwyfydd poblogaidd lle nid oes darpariaeth crefyddol cyfartal âg anghenion ysprydol y trigolion. I ddangos yr angen ag oedd am y fath Gymdeithas, gellir nodi bod poblogaeth Brydain Fawr yn ddwy- waith gymmaint yn awr a'r hyn ydoedd yn nechreu y canrif presen- nol. Y mae tros driugain o Eglwysi wedi cael eu hadeiladu yn Llundain yn unig o fewn yr ugain mlynedd diweddaf, ac etto dywedir bod pobl- ogaeth Llundain wedi cynnyddu yn y fath fodd, fel, pe llenwid pob Eg- lwys a phob Capel ynddi â chyn- nulleidíaoedd, y byddai chwe chan mil o'i thrigolion wedi'n heb le o addoliad i ryned iddo! Nid rhy- fedd, gan hynny, fod anffyddiaeth, ac annuwioldeb, a choel-grefydd wedi ymledu yn yr ardaloedd pobl- ogaidd hyn—llaweroedd o'r plant yn myned heb addysg,—a'r bobl, lawer o honynt, yn byw heb Grist, ac heb Dduw yn y byd! Tra mae darpariaeth creíyddol wedi bod mor anghyfartal i anghenion y bobl, mae gelynion Crist wedi bod yn brysur yn hau cyfeilioraadau o bob math yn eu plith i'w hudo i ddi- nystr. Dywedir bod nifer y cy- hoeddiadau anfoesol a werthir yn ein gwlad yn flynyddol yn naw ar hugain o filiynau ! yr hyn sydd yn fwy nâ holl nifer cyhoeddiadau y Gymdeithas er Lledaenu Gwybod- aeth Gristionogol, y Gymdeithas Traethodau Creíyddol, y Bibl Gym-