Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 1. IONAWR, 1853. Cyf. III. Bafom i&ufo tuag aí tí Örreaìmríaûí iftfctspmmol. Yr ydym yn bwriadu rhoddi pen- nodau dilynol yn yr Eglwysydd ar ddaioni, doethineb, ac hael- frydedd Duw, megis y dadlenir hwynt yng ngwahanol dymhorau y flwyddyn ac yn amrywiol barthau y greadigaeth; ac fe allai.na's gall- wn wneud yn well, ar ddechreu blwyddyn newydd,nâgystyried rhai o'r arddangosiadau aneirif o dda- ioni tadol y Creawdwr tuag at ddyn —arglwydd y greadigaeth. Ond y mae yn anhawdd gwybod ymha le i ddechreu, canys ni allwn droi ein golygon ar dde nac ar aswy nad ydyw cariadDuwyn gwenu o'n hamgylch. Ynddo Ef ỳr ydym yn byw, yn symmud, ac yn bod, ac y mae pob peth sy yn ein meddiant yu dylifo o'i ddaioni anfeidrol. Ei fraich warcheidwol a'n hamgylchyn- odd o'r foment gyntaf y cawsom ein bodoliaeth; a thra yr y'm yn ysgrifenu hyn o linellau yr ydym yn wrthddrychau ei ofal rhaglun- iaethol. Gwrandawodd ar ein llef- ain dinerth, a chyflenwodd ein holl angenrheidiau yn ein babandod cyn i'n calonnau ddysgu cydnabod ein Cymmwynaswr, na'n tafodau allu seinio ei Enw. Efe a agorodd fynwesau ein rhieni i goleddu y fath dynerwch a hoffder tuag attom yn ein blynyddoedd tynerol nad all iaith eu desgrifio. Er mwyn sicrhâu gwasanaeth yr haelionus. Efe a arwisgodd ein gwynebpryd â gwêniadau diniweidrwydd; ac er tyneru calon y creulon, yr achos- odd Efe i'n llygaid orlifo â dagrau. Cryfhaodd ein cyrph, ac ëangodd ein meddyliau. Drwy holl lwybrau peryglus ieuengctid Efe a'n har- weiniodd â'i law anweledig, gan ein gwarchod rhag profedigaeth, ein gwared rhag perygl, a choroni ein dyddiau â'i ddaioni. Ac ym mha gyfnod bynnag o'n bywyd yr ydym yn awr, y mae ein hoes rhag llaw yn dibynnu yn gwbl ar ei ofal Ef, a'r bendithion a dderbyniasom, ac ydym yn eu derbyn, ydynt gyn- nyrchion ei ddaioni. Gadêwch i ni yn awr edrych ar rai pethau neillduol. Os trown i sylwi ar ein cyssylltiad âg anian canfyddwn mai awyr Duw yr ydym yn anadlu, ac mai haul Duw sy yn ein goleuo. Cylch-gyfnewidiadau boddhaol dydd a nos, chwyldroadau y tymhorau—yn cael eu nodi gan ddychweliad rheolaidd haf a gauaf, pryd hau a medi,—ydynt oll wedi eu pennodi gan ei ddoethineb anffael- edig. Ei bwyntel Ef sy yn lliwio y blodeuyn, a'i berarogledd Ef sy'n ei arogl-darthu. Ei law sy'n gwisgo y meusydd â phrydferthweh, ac yn eu gorchuddio â llawnder. Ar ei orchymyn Ef y cyfododd y mynydd oedd, y suddodd y dyffrynoedd, ac yr ymestynodd y dolydd ëang. Ei fbroedd sy yn amgylchu y tir, eí wyntoedd sy yn cludo i ni drysor-