Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD CYFRES NEWYDD. Rhif. 2. CHWEFROR, 1853. Cyf. III. PafcgîtòftartS* ERLEDIGAETH Y MADIAI Pe tueddid rhyw Bagan meddyl- gar i chwilio am wybodaeth yng nghylch Achos haelionus Cyntaf pob peth, a phe dywedid wrth y cyfryw un, fod y wybodaeth y mae ef yn sychedu am dani wedi ei dat- guddio eisoes i ororau eraill, ac fod trigolion mwyaf nodedig y gororau hynny yn erlid i farwolaeth pwy bynnag a anturiai wneud ymchwil- iad personol i'w chynnwysiad, beth fyddai ei syndod o herwydd y fath ganlyniad ? Yn anwybodus o gym- meriad y wybodaeth fe'i llenwid â siomedigaeth trist, a thröai ym- aith yn sarhâus oddi wrth bob gwrthddrych a ymddangosai fel yn gwenu â daioni creadigol mewn attebiad i'w ardremiad yruchwiliad- ol. Ond, pe gwybyddai yn sicr fod y datguddiad a roddwyd yn un o ddaioni ammhrisiadwy, oni fyddai yn barod i ymwadu â phob cys- sylltiad â'r rhai hynny a ddifedd- iannant eu cyd-ddynion o'r cyfryw ddatguddiad ? Ac mor angerddol fyddai ei deimladau pan ddeallai mai y personau, a ymdrechent i amddifadu eraill o'r Gair Dwyfol, yw y rhai hynny ag y mae eu swydd yn y byd yu gosod rhwymedigaeth arnynt i'w ledaenu! Y mae dirdra, sy'n groes i syn- iadau moesol pagan, wedi ei gyflaf- annu yngŵydd holl wledydd Cred ! Y fath yw y gyfundraeth, ac mor liosog yw y cynllunwýr, fel, er fod llawer yn ddigllon a thrist, etto, ychydig sy'n synnu at ei chyflafan- iad. Os gall gŵyrdroad dirywiedig a gorthrymmus Cristionogaeth aw- durdodi y cyfryw weithred rhaid ei bod wedi ei chyflawni mewn rhyw gongl gaddugawl, lle y mae tuedd- iadau goleuedig a gwareiddiedig yr Efengyl yn hollol anadnabyddus, ac ym mha le na chafodd llenni tywyll trawsfeddiant uch-hedawl, dan yr enw o ddelw-addoliaeth dra- ddodiadol, eriôed eu gwasgaru. Ond y mae Tuscany yn heulo yng ngoleuni cyflawn gwên arch-ofleir- iadol, ac yn cael ei bendithio â chyfagosrwydd i drigfan yr hwn sy'n eistedd ynghadair St. Petr ! Yn y wlad yma, mangre enedigol llênyddiaeth, y lluniwyd ac y gloew- wyd yr arfau hynny gyd â pha rai yr ymladdwyd brwydr y Diwygiad. Òch! y mae adgofiant am bob peth sy'n rymmus mewn meddwl, yn gyssegredig mewn cymdeithas, yn orddwfn mewn dysgeidiaeth, ac yn brydferth a moesgar mewn llên- yddiaeth, wedi eu gwasgaru gan hanfodoliaeth yr hulks a'r daeardŷ, lle mae y rhai hynny sy'n ewyllysio dal cymmundeb â'u Gwneuthurwr, ac astudio ei Air, ar wahân i espon- iad yr Oífeiriaid Pabaidd, ac heb