Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Rhif. 2.] CHWEFROR, 1850. [Cyfeol iv. &tf)rafo ^sgol &ul Yn ol Adroddiad y Gymdeithas Wladol er Addysgu plant y tlodion yn Egwyddorion Eglwys Loegr, ymddengys, bod gan yr Eglwys, yn y fl. 1846-7, yn ei hysgolion dyddiól 955,865 o hlant yn cael eu haddysgu; ac hehlaw y rhai hyn, bod ganddi 466,794 yn ei hysgolion Sabbothol; y cyfan yn gwneud i fynu un miliwn, pedwar cant a deg ar hugain o fìloedd, chwe' chant a phedwar ar hymtheg a deugain o hlant yn der- hyn addysg ar law yr Eglwys Sefydledig ! D'iainmeu hod y rhan fwy- af, os nad y cwbl, o'r plant, sydd yn perthyn i'r ysgolion dyddiol, yn cyrchu hcfyd i ysgolion Sabbothol yr Eglwys; ac os felly, y mae agos i bedwar cant ar ddeg o filoedd o blant ein gwlad yn cael eu dwyn o dan ddylanwad ysgolion Sabbothol ein Heglwys. Yn yr ysgolion hyn y mae rhai miloedd o athrawon ac athrawesau, ag sydd yn ymroddi yn wirfoddol i'r gwaith o addysgu 'r plant hyn. A chan ei fod o'r pwys mwyaf i ansawdd moesol y wlad yn gyffredinol, pa fath addysg a gyflwynir ganddynt, y mae'n amlwg mai swydd bwysig ydyw swydd Athraw mewn ysgol Sul. Os edrychwn yn wir ond ar un athraw yn unig gyd â'i ddosparth Sabbothol, gallem dybied, mai peth bach iawn ydyw addysgu chwech neu ddwsin o blant ar y Sul; ond pan ystyr- iom, fod yr athraw hwnnw yn un o fìloedd lawer sydd trwy 'r deyrnas yn cyflawni yr un swydd, a chanddynt fyrddiynau o blant dan eu gofal yn cael eu haddysgu mewn pethau crefyddol, nis gallwn lai na theimlo bod swydd athraw mewn ysgol Sul yn un, a all ddylanwadu mewn modd effeithiol iawn ar les y wladwriaeth, yn gystal ag ar iech- yd eneidiau, ac o ganlyniad ei fod o'r pwys mwyaf, fod athrawon yn meddu ar addasrwydd i'w gwaith. Dan yr ymsyniad o hyn cynnygiwn i ystyriaeth ein ddarllenwŷr y sylwadau byrion a ganlyn ar y cymmwysderau, sy 'n angenrheidiol tu ag at wneud athraw buddiol a Uwyddiannus. Yn laf.—Maen rhaid bod ganddo dybiadau cyuir am natur a di- ben y gicaith sy ganddo meun llaw. Mae lle i feddwl, bod llawer athraw yn colli ffrwyth ei lafur o eisiau hyn. Nid yw yn edrych at yr iawu nôd, ac felly nid rhyfedd, nad yw yn annelu yn iawn, nac yn llwyddo. Beth ynte yw diben ysgol Sul ? Nid dysgu darllen yn unig ydyw.