Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Ehif. 3.] MAWRTH, 1850. [Cyfrol iv. Yntìfoöŵaníon ötfog. Nid oes gan elyn eneidiau un ffordd fwy llwyddianus i dwyllo a hudo dynion i ddinystr, na thrwy ymddiddanion drwg. Cyfaill an- nuwiol yw rhagflaenor Diafol i agor drws y galon, fel y caffo yntau groesawiad! Nid oes dim gan hynny yn erbyn yr hwn y dylid gwyl- ied yn fwy parhâus, nag yn erbyn cymdeithas y drygionus. Mor llygredig ydym wrth natur, fel, hyd yn oed pe baem yn trigo mewn anialwch, y ffynnai pechod yn ein calonnau: pa faint mwy, pan fo ymddiddanion cyfeillion annuwiol yn ei goleddu a'i gefnogi, a chwaut- au y naill yn cael eu hennyn trwy esiampl y llall! Mae eu clod a'u hannogaeth hwy yn lladd pob teimlad gwylaidd ; y gydwybod yn cael ei serio; pob ymsyniad o'r hyn sy'n iawn yn cael ei ddilëu; nes y mae'r hwn, a fuasai o'r blaen yn casâu hyd yn oed y meddui pechad- urus, yn awr yn ymffrostio yn ei gywilydd. Er mwyn gosod hyn yn fwy bywus ger brou ein meddwl, dychym- mygwn un a gafodd ei hudo fel hyn, a dilynwn ef o gam i gam ar hyd ei yrfa ddinysîriol. Edrychwn ar y dyn ieuangc yna : meithrin- wyd ef gyd ar tyneiwch mwyaf; yr oedd ei rieni yn ei hoffi; gwylias- ant drosto gyd â gofal pryderus ym moreuddydd ei fywyd, a thra y canfyddent ddiwylliant graddol ei feddwl, cyfodai gobaith yn fynych yneu mynwes, y byddai eu mab yn gysur ac yn ddedwyddwch iddynt, pan ddeuai y blynyddoedd blin. Ond daccw ef yn troi allan i'r byd, ac felly yn cael ei wahanu oddi wrth y rhai a fu'n gwylio tros ei ddyddiau boreaf. Mae grym yr egwyddorion crefyddol, a ddysgwyd ganddo gar- tref, yn parháu am yspaid. Ond ym mhen tippyn y mae yn cyfarfod âg eraill, yn ieuaingc fel yntau, y rhai ydynt eisoes wedi cychwyn ar yrfa annuwioldeb. Y mae eu cymdeithas hwy yn llawen ac yn dden- gar, ac y mae yn rhoddi ei hunan dan eu harweiniad. Ond y mae eu hymddiddanion hwy yn ddrwg. Soniant wrtho am eu pleserau annuwiol, a denant ef i'w profi hefyd. Y mae eu hudoliaeth o'r di- wedd yn llwyddo, mae efe yn dilyn eu ffyrdd hwy, ac yn gwneuthur yn ol eu gweithredoedd hwy. Y rhëdegfa, y dafarn, y chwareudŷ, y ddawns, y putteindŷ a ddenant ei serch ef yn awr; ac wele'r hwn, ag oedd o'r blaen yn ffieiddio hyd yn oed yr enw o feddwdod a phutr teindra, yn awr yn hoffi adrodd ei bechodau gwrthun ! Ond dilynwn CYF. IV. D