Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Rhif. 7.] GORPHENHAF, 1850. [Cyfrol iv. $a fotiö b touaf at $mìs gr gtrslfogîẃ?* Susan. Ond y mae arnaf ofn myned yno. Gwenffrwd. Dylet ofni yn fwy aros draw uâ pheidio myned. Pa- ham yr wyt wedi peidio cymmeryd enw Duw yn ofer, a thyngu, a rhegu fel y byddet unwaith yn gwneud? Paham na fyddi yn awr yn lladratta fel o'r blaen ? S. O Gwen, ni wneuthum yr un o'r pethau drwg yna, er pan y mèddyliais am ystyr y Deg Gorchymyn, y rhai y mae y Gweini- dogion yn darllen bob Sul. Mi wn ei fod yn bechod torri yr un o orchymynion Duw; a Duw ei Hun a ddywedodd, " Na ladratta," ac, " Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer." Nid wyf yn ewyllysio gwneud y pethau hyn; yu wir byddai arnaf ofn eu gwneud. Ni ddymunwn dorri cymmaint ag un o orchymynion Duw. G. Da iawü, Susan. Ni a ddylem gadw holl orchymynion Duw, ac yr wyf fínnau yn dymuno eu cadw hwynt oll. A'r un llais, ag a ddywedodd, " Na ladratta," a ddywedodd hefyd, " Gwnewch hyn er coffa am danaf." Ac am hynny, trwy gymmorth Duw, ni ladrattaf. ac mi a af at Fwrdd yr Arglwydd. Nid wyf yn ystyried yr olaf o orchymynion fy Arglwydd yn un dibwys; ac y mae yn eglur ddigon, os arhosaf draw oddi wrth ei Fwrdd Ef, nad wyf yn ymdrechu cadw ei holl orchymynion Ef. S. Ond, Gwen, mae yna beth arall; nid yw llawer, sy'n myn'd at Fwrdd yr Arglwydd, ddim gwell nâ phobl eraill. G. Susan, Susan, pe clywai ein Harglwydd di yn siarad am dy gymmydogion, meddyliwn y dywedai Efe wrthyt ti, fel y dywedodd wrth Pedr pan ofynodd ynghylch Ioan, " Beth yw hynny i ti ? canlyn di fyfi." Os nad yw rhai yn well, er myned at Fwrdd yr Arglwydd, eu bai hwy ydyw hynny. Goreu po leiaf y siaradom ynghylch eraill ac os siaradant hwy am danom ni, faint gwaeth ydym ? Y gwir y w, y mae y diafol yn gwybod y byddai yn fuddiol i'n henaid i fyned yn aml at Fwrdd yr Arglwydd, ac felly y mae yn arferyd pob moddion i'n rhwystro rhag myn'd yno. Y mae yn cuddio oddi wrthyrn y pechod * Parhâd o du dal. 83. CYF. IV. H