Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Rhif. 9.] MEDI, 1850. [Ctfrol iv. Y mae llawer o bobl yn son am y Sabbotb fel pe na bua3ai mewn bod cyn yr amser y rbyngodd bodd i'r Holl-alluog roddi y Gyfraitb oddi ar ben mynydd Sinai. Ond ni ddicbon i neb, sydd yn byddysg yn yr Ysgrythyrau, lai nâ gwybod fod y Sabbotb mewn bod er decbreuad y byd. Ar ol hanes y cbwe' diwrnod cyntaf o'r wytbnos gyntaf, yr ydym yn cael y crybwylliad canlynol am y seitbfed dydd;—" Ac ar y seitbfed dydd y gorpbenodd Duw ei waitb, yr bwn a wnaetbai efe, ac a orpbwys- odd ar y seitbfed dydd, oddi wrth ei boll waith, yr hwn a wnaethai efe. A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef; oblegid ynddo y gorphwysasai oddi wrth ei holl waith, yr bwn a greasai Duw i'w wneuthur."—Gen. ii. 2, 3. Yma, gan hynny, yr ydym yn cael fod y Sabboth yn cael ei sancteiddio—yn cael ei wneuthur yn ddiwmod cyssegredig—o ddechreuad amser. Er pan wnaethpwyd y byd, ni fu yr un wythnos eriôed, na cheir Sabbotb cyssegredig ynddi. Ym mhen un cant ar bymtbeg o fìynyddoedd wedi y greadigaeth, yr ydym yn cael Noah yn cadw cyfnodau o saitb diwrnod, ac yn ddi weddarach, sonir am wythnosau, gan hynny, yr ydym yn casglu yn naturiol, fod y Sabbotb yn parhâu i gael ei gadw. Ym mhen dwy fil a phum' cant o fiynyddoedd wedi y greadig- aeth, fe welodd Duw yn dda i gasglu yr boll gyfreithiau dwyfol yn un, y rhai a adnabyddir wrth yr enw y Deg Oorchymyn. Yr oedd amryw o honynt mewn bod o'r blaen ar eu pennau eu hun- ain ; fel enghraifft, gallwn olrhain yn yr oesoedd patriarchaidd y cyfreithiau yn erbyn eilun-addoliaetb, llofruddiaeth, a godineb, ond yn awr, yr oeddynt wedi eu corphori a'u dwyfol awdurdodi. Yr Arglwydd a'u llefarodd hwynt â'i enau ei Hun, ac wedi hynny Efe a'u hysgrifenodd hwynt ai fys ei Hunan, ar ddwy lech. Cyf- raith y Sabboth ydoedd un o'r cyfreithiau a lefarodd Efe fel hyn â'i enau ei Hun, ac a ysgrifenodd â'i fys ei Hun. Pa fodd, gan hynny, y dichon i neb diragfarn ddadleu fod cyfraith y Sabbotb yn rhan o'r ddeddf seremoniol Iuddewig, ac wedi ei bwriadu i'r genedl honno yn unig? Oni allai yn gystal haeru fod y naw gorchymyn arall o'r Deg i gael eu cyfyngu i'r Iuddewon, ac nad oedd y gorchymynion yn erbyn eilun-addoliaeth, Uofruddiaeth, a godineb, i fod yn rhwymedig ar CYF. IV. K