Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EGLWYSYDD. Rhif. 10.] HYDREF, 1850. [Cyfrol iv. ÿabgtfoíaetf). Beth yw Pabyâdiaeth ? Mae'r gofyniad yn addas i'r amser presen- nol, o herwydd aml ae amryw ydyw'r ymdrechiadau a wneir i'w led- aenu, a llawer ydyw'r anwybodaeth a ymddengys o barth i'w wir natur. Rhai a edrychant arno fel peth diniwaid, ac felly tybiant nad rhaid ei wrthwynebu; eraill, fel peth mor ynfyd ac afresymmol, nad ydyw yn werth ei wrthwynebu: ac fel hyn, trwy esgeulusdod rhai ac anwybodaeth eraill, mae'r gau-grefydd hon yn cael maûtais a rhyddid i ledaenu ei hegwyddorion yn ddi-rwystr, gan hudo eneidiau i ddis- tryw. Mae'n bryd gan hynny i bob un sy'n caru ei genedl,—sy'n caru ei Eglwys—ac yn dymuno ffynniant y gwirionedd, ddyrchafu ei lais yn erbyn hudoliaethau'r gelyn hwn. Beth ynte yw Pabyddiaeth ? Dywedodd un Gweinidog duwiol, mai " campwaith Satan " ydyw : " a'r dystiolaeth hon sydd wir." Nid rhaid ond sylwi ar egwyddorion a gweithredoedd Pabyddiaeth i gan- fod y gwirionedd o hynny. Yr Yspryd Glân, pan yn rhag-fynegu am dano, a'i geilw yn " Ddirgelwch." " Ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei 'sgrifenu, DIRGELWCH, BABILON FAWR, MAM PUTTEIN- IAID, A FFIEIDD-DRAR DDAEAR."—Dat. xvii. 5. A phan ddatguddiwyd ei natur a'i hymddygiad tu ag at Saint Duw i'r Apostol loan, efe a ryfeddodd " â rhyfeddod rnawr." Nis gallasai gelyn mawr yr Eglwys ddyfeisio peiriant mwy cymmwys i wrthsefyll "y gwir- ionedd megis y mae yn yr Iesu" nâ'r gyfundrefn Babaidd. Yr oedd y diafol am gannoedd o flynyddoedd wedi dwyn dynolryw yn gaeth dan iau Paganiaeth. Yr oedd wedi ynnill y byd mor Uwyr dan ei lywod- raeth, fel nad oedd ond un genedl drwy'r byd ag oedd yn meddu gwybodaeth am y gwir Dduw, ac yr oedd y wir grefydd wedi ei llygru i raddau mawr hyd yn oed yn y genedl honno. Ond ynghyflawnder yr amser daccw ün yn ymddangos ag oedd i ddattod gweithredoedd diafol. Tra'r oedd miliynau'r byd megis wedi eu claddu ym meddau Paganiaeth ac eilun-addoliaeth, a thywyllwch dudew yn eu gorchuddio, a diafol yn dywysog ar y cwbl, yn ddisymmwth y rhai oedd yn y beddau a glywsant lef Mab Duw, a'r rhai a glywsant a fuant byw. Drylliwyd y llyffetheiriau, agorwyd drysau'r carcharau, a niferoedd ag oeddynt yn rhwym a wnaethpwyd yn rhyddion. Aeth Cenhadon Crist