Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

§Ä3ÄŴ "llwydded y ehai a'th hoffast." Beth yw gweddi ? Nid geiriau yn unig ydyw gweddi! gall- wn gael y geiriau mwyaí' flraeth a dewisol, ae etto fod heb weddi. Nid agwedd corphorol ychwaith ydyw gweddi.— Gallwn fod o ran agwedd yn isel ac yn ostyngedig, yn blyg- edig ar ein gliniau â'n gwynebau tu a'r llawr, ac etto fod heb weddi. Beth ynte yw gweddi?—Ochenaid ydyw;— ymdrech ydyw;—tywalltiad yr enaid ger bron Duw gyda'i holl lwyth o ofídiau, ac anghenion, a dyrnuniadau. A weli di'r ddau accw yn myned i fynu tu a'r deml i weddioi Daccw un o honynt yn sefyll ac yn adrodd gweddi rhyngddo ag ef ei hun;—mae ei agwedd yn ddifrifol, ei lygaid yn ed- rych tu a'r nef, megis pe bae disgwyliad ei enaid wrfh Dduw, yn urhg, ac nid oes diffyg geiriau ganddo: er hynny nid jm hwn yn gweddio. Ond edrych ar y UaU;—nid oes gan hwn ddim o'r hyder na'r ffraethineb sydd gan y llall; mae arno, gywilydd gymmaint a chodi ei olygon tu a'r nef;—'d oes gan hwn ddim amledd gehiau, ond curo ei ddwyfron y mae, megis pe bae yno ìyw bla rhy wrthun i'w ddinoethi, rhyw ofid rhy drwm i'w draethu.—Gweddio y mae hwn. " Dy- wedaf i chwi aeth hwn i'w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na'r llall." Beth a achosodd y gwahaniaeth? Nid ei ag- wedd, na'i eiriau, ond ei yspryd. Aeth hwn o ílaen Duw fel