Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y FRYTHONES. CHWEFROR, 1881. êg®m& Bhhimtt. ]AN y penderfynodd apostol mawr Ynysoedd Môr y Dehau, John Williams, y cenadwr, wneyd ei gartref a chanolbwynt ei lafur yn ynys Raiatea, adeiladodd yno dý ag yr oedd yr ystafelloedd o'i fewn, a gardd y perlysiau a'r blodau o'i amgylch, yn ei wneyd yn baradwys a thegwch yr holl ynys. Ei reswm dros adeiladu cartref mor gelfydd a pharadwysaidd yn nghanol bythod anghelfydd a chutiau anifeilaidd y Raiateaid anwar oedd, am mai amcan ei genadaeth ef atynt ydoedd, nid darostwng ei hun a'i achos i'w safle isel hwy, ond eu dyrchafu hwy i fyny i'w safle uwch ef yn eu dull o feddwl ac o fyw. Ar yr un egwyddor ag y gweithiodd yr apostolaidd Williams ei genadaeth at y Raiateaid yr ymdrechodd y Frythones o'r dechreuad weithio ei chenadaeth hithau at ferched Cymru, nid trwy ddarostwng ei hun yn ei thestynau, ei hysbryd a'i hiaith, i lawr at safon resynus o isel-chwaeth, ac iaith dosbarth rhy luosog eto o'i chwiorydd, ond yn hytrach sefyll i fyny ar y gris uchaf cyrhaeddadwy iddi hi, a llefain oddiyno ar bob Brythones ieuanc a orweddai i lawr yn y tywyllwch a'r llaid a'r dinodedd islaw, " Dring i fyny yma !" Cyfeiriai hefyd lygaid ac uchelgais ei chwiorydd ieuainc oll yn fisol i fyny at ryw un o ser dysgleiriaf ífurfafen Prydain mewn athrylith a llafur llenyddol, neu mewn rhinwedd, cymeriad, neu ddefnyddioldeb yn eu bywyd. Cyfeiriodd hwynt at lafur llenyddol Miss Charlotte Elliott, Mrs. Hannah More, Mrs. Hemans, a'r seraphaidd Miss Havergal; at ddysgeidiaeth uchel Miss Caroline Herschell a Mrs. Mary Somerville; at lafur a defnyddioldeb dyngarol Mrs. Fry, Mrs. Gladstone, y " Chwaer Dora," a Miss Nightingale ; ac at ddefnyddioldeb crefyddol bywyd hunan-gysegredig yr Arglwyddes Huntingdon, Mrs. Ranyard, Mrs. MofFat, Mrs. Eleanor Fisher, &c. Ei hamcan yn eu cyfeirio i fyny at y ser dysglaer hyn oedd, dangos iddynt y fath uchelderau a all merched o ddifrif am fyw i bwrpas eu cyraedd, mewn gwybodaeth neu rinwedd personol, mewn defnyddioldeb dros' Dduw neu eu cyd-ddynion, ac mewn enwogrwydd byd-eang trwy hyny: dyma ferched wedi eu cyraedd. A allasai cariad y Frythones at ei chyd- Frythonesau ieuainc gael unrhyw lwybr tebycach i roddi unrhyw wreichionen o uchelgais a allai fod yn eu mynwesau ar dân, i fyned a gwneyd yr un modd ? Y mae genym y mis hwn i gyfeirio at y seren ddysgleiriaf, feallai, mewn athrylith a phoblogrwydd a ymddangosodd erioed yn ffurfafen lenyddol Prydain, ac a fachludodd ar yr 22ain o Ragfyr diweddaf,— ''George Elliott,"y ffugenw a ddewisodd i guddio ei rhyw a'i phersonol- iaeth dano oddiwrth y byd. Ei henw morwynol oedd Marian Evans.