Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Cyf I. Rhif 12. UHAGFYR. 1891. Pris Dwy Geiniog. Mr. T. RICHARDS, (AP GLYNDWR.) Ie, ddarllenydd, dyma Mr. T. Richards, (Ap Glyndwr) o flaen dy lygaid, prif arweinydd part'ion lleisiau y genedl am 1891; un sydd wedi codi trwy fyrdd o anfanteision i binacl enwogrwydd ac anrhydedd, ac un, er na chaf- odd awr o ysgol gerddoroí, yn medru synu a swyno y prif feirniaid cerddorol fel arweinydi. Ganwyd ef yn y Travel- lers' Rest, Maesteg, yn mis Gorphenaf 1859. Yr oedd ei fam yn enedigol o Gaerfyrddin, a'i dad o Langynwyd. Pan nad oedd ondhogyn bychanbu farw ei dad, drwy ddam- wain, gan adael gweddw a naw o blant amddifaid i wynebu ar, ac i ymladd ag ystormydd geirwon y byd, pryd nad oedd ond un o'r plant wedi dechreu gweithio, ac oberwydd claddu ei dad, gorfodwyd ein harwr i ddechreu gweithio cyn ei fod mewn oed cyfreitblon, felly yn cael ei amddifadu o fan- teision addysg boreu oes. Ymddangosodd ei duedd arweinyddol pan nad oedd ond hogyn bychan yn canu alto yn nghòr Saron. Maesteg, dan arweiniad Mr. J. Jones, Argraffydd. From a Photo- b* J Cofus genym fel y codid ef i ben y sedd i arwain ar " Mai." Torodd ystorm chwerw arall dros y teulu, cafodd brawd iddo ei ddiwedd yn y lofa, yr hyn a effeithiodd gymaint ar Mr. Richards fel y lluddiwyd ef dros amser i efrydu dim mewn cerddoriaeth. Symudodd o Maesteg i Gwmogwy; ac yma ni a'i cawn yn arweinydd y gân yn Bethel, Nantymoel, yn arwain ei gôr i amryw o fuddugoliaethau. Ünd, wele gwmwl du uwch ei ben eto,—cafodd brawd arall ìddo ei ddiwedd wrth ei ochr. Effeithiodd yr ergyd hon gymaint arno nes y penderfynodd nad elai Wwy i weithio tan y ddaear. Symudodd yn ol i Maesteg ac yn Saron, ei hen gartref, cawn ef eto yn ddiwyd a defnyddiol, trwy addysgu yr ieuenctyd yn y Nodiant Newydd, a gyda'i barti yn cipio gwobrwyon. Gwir fod ambell wybedyn yn eiddigeddu am ei lwyddiant, ond " excelsior" oedd motto ein gwron. Ar daer gymhelliad eglwys Siloh, Maesteg, ymgymerodd ag arwain y gân yno. a bu ei lafur yn hynod lwyddianus. Aeth a'i gôr i'r maes cys- tadleuol bum gwaith, ac enillodd y dorch dair gwaith o'r pump, sef ar " 0 ! Great is the depth," " Then round about the Starry Throne," ac ar " Teyrnasoedd y Ddaear." PeríTormiodd hefyd dri o lyfrau gyda llwyddiant mawr, sef, "Voyage " (Dr. Mason), " Joseph," (Dr. Parry), ac " Arthur Pen- dragon" (H. Davies). Daeth y ganmoliaeth uchel a gafodd gan feirniaid o fri, a chan y wasg, ag ef i sylw Mr. Lawrence, Ffaldau Col- lieries, Pontj'cymer, yr hwn a gynygiodd iddo fyned i bwyso, daliodd ar y cynyg, a dyma efe yn awr ynMhontycymer. H. Goldie, Swansea Cyn dyfod Mr. Richards i'r lle yr oedd Mr. D. Cynlais Davies wedi sefydíu parti bychan yno, ond oherwydd fod ei amser yn brin, cafwyd ganddo i gymeryd ei le ef. Cyn hir yr oedd Parti Pontycymer (neu feallai, mwy priodol Parti'r Garw) yn cystadlu ddwywaith o fewn chwech wythnos, yn fuddugoliaethus yn y naill, ondcolli yn y llall. Yn nesaf cawn ef yn curo ar y " Gof," yn Mhenybont, ac yn cipio y llawryf er bod deg parti yn ei erbyn. Dywed- odd y beirniad, Mr. D. Jenkins, Mus. Bac, fod Parti Maesteg, wedi canu yn arddercbog, ond fod Parti Poutycymer yn mhell tuhwnt i'w