Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif 36. RHAGFYR. 1*93. Cyf. III. 1893 MOR fuan yr ehedodd blwyddyn. Mae Cwrs y Byd yn dair oed, ac y mae drwy ei oes fer, wedi gwneud ei ore i wasanaethu ei genhedlaeth, er yn ddigon aumherffaith. Hwyr- aeh wrth ddiweddu blwyddyn, yn neillduol wrth ddiweddu blwyddyn mor Iwythog oddigwydd- iadau pwysig nad anyddorol fydd tafiu cipoiwg drostynt. Gwnaeth angau alanasdra mawr ar y byd yn ystod y deuddeg mis ; torodd i lawr y da a'r drwg, y cyfoethog fel y tlawd, a gwnaeth mwy nag arfer ben am danynt eu hunain. Bu Jay Gould. tywysog y ffyrdd haiarn farw yn mis Ehagfyr 18W2, a gadawodd ar ei ol lawer o filiwuau o bunau, y rhan fwyaf o'r rhai oedd wedi wneud drwy gymeryd mautais anheg ar gwmniau gweiniaid ; ac mewn trefn i bereiddio ei enw a'i goffadwriaeth, mae ei olynwyr yn cymeryd arnynt adeiladu eglwys yn werth llawer o fìloedd. Twyllwr arall a'ddaliwyd oedd C. Wells, y gwr enwog o Monte Carlo, yr hwn oedd wedi tynu £34,000 ar bobl o sefyllfa- oedd cymharol isel. Cymerwyd ef o'i bleser- long i'r carchar, a rhoddwyd iddo wyth mlynedd i edifarhau am ei ddrygioni. Daeth ciwed ladronig y Liberator hefyd i'r ddalfa ; yroedd- ynt drwy eu crefyddolder a'u gwenau teg, wedi ilwyddo i dyuu dros £7,000,000 o arian y cyhoedd, arian y pregethwyr, a phobl grefydd- ol gan mwyaf i gyd, pobl wedi eu henill bob yn bunt. Mae gan Hobbs 12 mlynedd i adolygu ei ymddygiadau; gan Newman, un nad oedd mor euog liawn a'r lla.ll, bum mlynedd ; ond y mae Balfour penaeth y cythreuliaid, wedi dianc, ac yn byw yn fras gerllaw Buenos Ayres, ar ffrwyth ei ystrywiau. Collasom wyr rhagorol o'r areithfa Gymreig Anibynol—galwyd pedwar ar ddeg, erbyn hyn y maent yn bymtheg; un yn Madagascar, pedwar yn America, a deg yn Nghymru. Ni fu angati yn fwy tirion wrth yr enwadau ereill, collodd yr Eglwys Esgobol ei Chanon McNeile, a'r Methodistiaid y Dr. J. Hughes. Urddwyd 28 o weinidogion newyddion, a symudodd yn agos 40 o weinidogion o'u lleoedd, a phriododd deg neu ddeuddeg o'n gweinidogion. Agorodd y S^nedd Ionawr 31, a Chwefror 13 y dygwyd Horae Kule i'r ly, a pharhawyd i'w ddadlu yn ddibaid hyd Medi y 1, pryd y cariwyd ef gyda 301 yn 267; ond Medi 8, tafiwyd ef allan gan y Lords, drwy 419 yn erbyn 41. Gohiriwyd y Senedd Medi 22, hyd Tachwedd 2. a chyfarfu i geisio pasio mesur y Cynghorau Sirol, ond dilun a difynd yw hi er y dechreu. Talwyd gryn sylw y gauaf diwecdaf i bobl segur y wlad, (the unemployedj a buwyd yn yn cynllunio i agor gweithfeydd cyhoeddus ar eu cyfer, ond oferedd i gyd ; rhaid codi y bobl i dir i allu helpio eu hunain ; ofer ceisio helpio cymdeithas drwy fesurau celfyddydol. Pe y îsenedd yn ewyllysio codi yr unemployed i dir i helpio eu hunain. taflasent rai o'r miloedd erwi tir yn agored iddynt, sydd yn awr yn wasarn dan draed gwningod. Mi a wn heddyw am bersonau fuasai yn foddlon rhcddi gwaith i bob dyn eegur sydd yn y plwyf hwn, pe caent y tir segur sydd yma i'w gosod i weithio arno, a thalent yn ewyllysgar fwy o rent am dano nag a delir yn bresenol am dano. Dygwyd i'r Senedd hefyd yn Chwef. fesur y " Local Ỳeto," a'r nos hono bu farw A .B. Walk- er, yr hwn a wnaeth fwyaf o un dyn yn ei oes feddyliwn i greu tatarndai; iddo ef y perthyn bron bob ty tafarn ar gonglau heolydd Lerpwl. Dygwyd i'r Senedd Chwef. 23. y " Welsh Suspensory Bill," dyna un o driciau y G.O.M. i gadw Cymru yn dawel, ac wedi ei ddwyn ger bron i lanw llygaid rhywrai, ond nid yr eiddo fì, gadawyd eí i farw o hono ei hun, a chariwyd Home Eule. Nid oeddwn yn meddwl dim o hono, yn unig yr oeddwn ac yr wyf eto yn flin fod y Cymry yn cymeryd eu prynu a'u gwerthu â geiriau teg. Cariwyd penderfyniad yn y Ty Mawrth y 24, i dalu aelodau Seneddol, ond cariwyd hwnw o anfodd y G.OM. ac ni chlywyd son am dano ond hyny; o'm rhan fy hun mae yn llawer gwell genyf weinyddiaeth Dorîaidd na gwein- yddiaeth dwyllodrus.