Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y RY Rhif i. IONAWR, 1896. Cyf. VI. PWY YW Y "BOBL?" £AE yn syndod gymaint o bethau fydd yn cael eu trefhu gan p ein seneddwyr ar gyfer " y Bobl;" ond atolwg pwy yw y Bobl ? Beth ydys yn wneud iddynt ac erddynt, yn wleidyddol,; yn gymdeithasol, ac yn grefyddol? Os mai wrth "y BoblJ' y deallir dyrnaid olandlords, ychydig o stiwardiaid, ychydigo dwrneiod, ychydig o amaethwyr cyfrifol, yna y mae llawer yn cael ei wneud iddynt, ond os mai wrth y bobl y deallir y rhai sydd yn gweithiò yn galéd, yn chwysu ac yn cynyrchu bwyd, gwisgoedd ac arian y wlad, nid oé&dim yn cael ei wneud iddynt. Yn wir, gwneir pob peth i'w beichio, i'w llethu a'u newynu, ac o'r fan hono y tardd yr anfoesoldeb a'r íros- eddau—y trefniadau wedi eu gwneyd i'r mawrion gael gormod o gyf- oeth ac i'r bobl gael rhy fach; ac ond i chwi sylwi o gylch y ddau ddosbarth hyn, dosbarth y gormod a dosbarth y rhy fach yma, fel y dywed y gwr doeth, y mae holl droseddau y wlad yn troi. Achwynlr' fod y tlodion yn byw yn Hygredig, a bydd rhai yn rhyfeddu nes y byddo gwynion eu llygaid yn y golwg fod pobl yn myned mor isel a difoes, ond ni fydd neb yn rhyfeddu pan. fyddir yn gwneud cyfreithiau a threfniadau i'w gwasgu i lawr, ac i'w trin fel anifeiliaid ; wedi eu gwasgu i safle anifeiliaid o ran triniaeth, beth ond moesau anifeiliaid ellir ddysgwyl. Llawer a siaredir drwy y blynyddoedd am y cynlluniau goreu i atal troseddau yn mysg y " Werin," ond ni chlywais i eriöed am drefnu mesurau i atal troseddau yn mysg y mawrion, tra y bydd ,un o'r gwyr mawr yn gallu pechu mwy yn erbyn cymdeithas mewn diwrnod nag a fydd gweithiwr yn aliu bechu mewn blwyddyn. Tybid unwaith y byddai cospi yn llym yn drefn dda i osod atalfa ar ddrygau y werin, fel nad peth anghyírredin oedd gweled deg, deu- ddeg, ugain, o garcharorion yn cael eu harwain i'r crogbren o bob brawdlys, a chedwid y crogwyr ar lawn waith. Byddid yn crogi gwyxt gwragedd, a phlant. Crogid hwynt am fân droseddau, trosedciau plant angen, o drosedd lladrata ychydig sylltau i fynu, a phan fyddai y tyrfaoedd yn nghyd yn edrych ar y creaduriaid rhynllyd, caipiog, gwelw yn cael eu hyrddio i fyd arall bj'ddid yn yspeilio canoedd ö logellau o dan gysgod y crogbren, er fod pigo llogellau yn drosedd i'w gospi â chordyn. Byddid weithiau yn sibedu pobl yn fyw, eucrogi rhwng nefoedd a daear hyd nes y trengent o newyn, a gadewid eü cyrph yn y fan hyd nes y bwyteid hwynt gan fwlturod a chigfrain.