Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JjCUrc/2i CWRS Y RYD. Rhif 6, MEHEFIN, 1896, Cyf. VL "BENJAMI.N FRANRLIN, AT DDYLANWAD AR WLEIDYDDIAETH AMERICA." Ysgrif I.—Hanes Bywyd Fraxklin\ <% Yn mhob gwlad y megir glew," meddai yf hen ddiareb. Ni chafodd y frawddeg uchod ei gwireddu yn llwyrach erioed yn hanes un wlad' wareiddiedig nag yn hanes Unol Daleithiau America. Yn sicr yr oedd gan ragluniaeth law amlwg pan yr arweinìodd y Tadau Puritan» aidd i setydlu yno yn agos i dair canrif yn ol» Gorchwyi dyddorol fuasai dilyn camrau yr Hen Bererinion ardderchog yn eu haml a'u blin deithiau ar fòr a thir—yn cael eu herlid o fan i fan—eu carcharu- a'u lladd yn achos cyfiawnder a rhyddìdcydwybod. Wedi methu cael dinas gyfaneddol ar gyfandir Ewrop, gosododd Duw yn nghalon y fintau fechan hon i droi ei gwyneb tua gwlad machludhauh Ac wedi bod yn mheryglon llif-ddyft'oedd, yn mheryglon ar y mòr, yn mherygion yn mhüth lladron, wedi dioddeí newyn a syched, cystudd a lludded, a myrdd o brofedigaethau eraill; o'r diwedd glaniodd y bobl ddewr hyny ar dir y gorllewin pell, gan benderiynu gwneud eu cartref " yr ochr draw i'r dwr." Cyn pen nemawr, trwy eu diwydrwydd a'u gweithgarwch, troisant yr anialwch yn baradwys, y tir sychedig yn ftynonau dyfroedd, a'r diffaethwch i flodeuo fel gardd yr Arglwydd. Yr oedd y Tadau hyn, heb yn wybod iddynt eu hunain, wedi cael eu hethol gan y nefoedd i ddechreu cyfncd newydd yn hanes y byd. Hwynt-hwy gawsant y fraint i osod i lawr s}ifeini y Weriniaeth fwyaf ogoneddus a rhyddfrydig a welodd y byd erioed. Er cymaint ein hymffrost nì yn eìn rhyddìd a'n hannìbynìaeth yn }r oes "oleuedig" hon, yx oedd yr hen Buritaniaid yn deali egwydd» orion Radicaliaeth a chydraddoldeb yn llawer gwell na ni. Mwy nä yna, gwyddent pa fodd i ddioddef dros, ac i áberthu er mwyn eu heg* wyddorion, yr hyn sydd yn ddyeithr-beth yn ein mysg ni y dyddiau hyn. Gellid meddwl wrth wrando ar ambell i eiddilyn gwleidyddol yn yr oes hon, nad oedd 3^ byd yn gwybod dim beth oedd rhyddid cyn iddo ef wneud ei ymddangosiad yma. Diau mai gydag ef y ganwyd ac y bydd marw gwybodaeth; ond dylasai gofio fod gan eraill ddeall