Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CWRS Y BYD. Rhif 7. GORPHENAF, 1897. Cyf VII. JOHN LOCKE, A'i Ddylanwad ae Wleidyddiaeth Ewrop. Gan y Parch. D. Lewis, Rhyl. YsGRIF II.—" DWYFOL-HAWL BrENHINOEDD." Ssi|3l YN y gellir gwerthfawrogi y daioni a wnaed gan John Locke yn y jf^ byd, a meddu syniad elir a chywir am fesur dylanwad ei ddysg- eidiaeth ar wleidyddiaeth y deyrnas hon a chyfandir Ewrop, mae yn ofynol i ni yn gyntaf oll feddu rhyw feddylddrych am natur y berthynas a fodolai rhwng y brenin a'i ddeiliaid, yr orsedd a'r wlad, yn, a chyn ei amser ef. Hwyrach mai y ffordd sicraf i gyrhaedd hyn fyddai i ni roddi braslun byr o hanes " dechreuad, cyfodiad, a hatcliau brenhiniaelh" yn— I.—Yn ol Dysgeidiaeth Gair Duw. Tardd y gair brenin o'r gwreiddair breen, yr hwn a olyga "uwchafiaeih." Efallai mai y darnodiad goreu o frenin yw a ganlyn—" penllyicydd llwyth, gwlad, neu deyrnas: un a gallu ac awdurdod ganddo i roddi cyfraith mewn grym er budd a diogelwch cymdeithas.'' Nid oes dim yn y darnodiad hwn sydd yn tueddu yn y mesur lleiaf i filwrio yn erbyn rhyddid ac iawnderau y deiliaid, nac ychwaith yn rhoddi hawl i frenin ormesu a threisio. Yn ol yr hanes a geir yn y Beibl, nid yw brenhiniaeth o osodiad dwyfol, h.y., brenhiniaeth Israel. I bob meddwl diragfarn mae yr viii berinod o I. Samuel yn derfynol ar y pwnc. A phan gafodd Israel frenhinoedd arnynt yn ol eu blys, ni ollyngodd Duw, megis o'i law, awenau y llywodraeth arnynt i neb, ond cadwodd yr awdurdod o ddewis eu brenhinoedd iddo ei hun mewn rhan helaeth. Dangosai yn eglur hefyd i'r brenhinoedd eu hunain, nad oeddynt wedi y cyfan ond ei