Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

* Y TREMYDD: *■ CYLCHGRAWN CHWARTEROL Y TBEFNYDDION WESLEYAIDD, CYLCHDÄITH Y WYDDGRUG. RHAGFYR IONAWR a CHWEFEOR. TREM ÄR HÄNES YR ÄCHOS YN "PENDREF." Papue ddabllenwyd yn Nghymdeithab t Güild gan un ob aelodau. ÉB yn un o'r rhai lleiaf oSiroedd Cymru, perthyna i Sir Fflint lawer o atdyniadau, ac o ran safle Wealeyaeth bu yn amlwg iawn er y dechreuad. Tebygol yw fod Wesleyaeth yn Sir Fflint yn gryfach mewn cymhariaeth i'r boblogaeth, nac un Sir arall yn Nghymru. Talwyd ymweliadau cyson a rhai lleoedd yn y Sir gan weinidogion Cylch- daith Caer rai blynyddoedd cyn sefydliad Wesleyaeth Gymreig. Ffurfiwyd achos yn Mryngwyn mor gynar a Mawrth 4ydd, 1770, ac ymaelododd Eichard Harrison, Llaneurgain. Trwy ei offerynoliaeth ef dechreuwyd achos y Wyddgrug. Yn ei " Journah" yr ydym yn cael fod John Wesley wedi talu ymweliad a'r dref hon Mai 2fed, 1759. Yr oedd y gwynt yn oer iawn, a'r haul yn tywynu yn gryf, ond gan fod y safle ddewis- wyd iddo yn agored i'r gwynt a'r haul nid oedd yr amgylohiadau yn anffafriol, ac er fod " Races " Caer yn dynfa i'r mwyafrif o'r trigolion cyfoethocaf a'r farchnad yn lluddias eraill, cafwyd cynulleidfa dda. Boddlonwyd Mr Wesley yn fawr. O dan ddyddiad y 25ain o Mawrth yr ydym yn cael iddo ddyfod yma drachefn. Yr oedd y tywydd y tro hwn eto, medd Mr Wesley, yn stormus iawn, fel yr oe'dd yn beryglue i ddyn ac anifail, ond gwobrwywyd ef am ei drafferth gan ymddygiad gweddus a difrifol y gynulleidfa. Yn BbrilJ 3ydd, 1771, ysgrifena Mr Wesley yn ei ddyddlyfr " Pregethais oddeutu un o'r gloch yn y Wyddgrug, a bu raid imi bregethu yn yr awyr agored eto." Talodd Apostol mawr Wesleyaeth dri ymweliad a'r Wyddgrug, a gadawodd difrifwch y trigolion argraff ffafriol ar ei feddwl. Wedi hyn, pregethwyd yma gan amryw o enwogion y cyfundeb